Ewch i’r prif gynnwys

Sboncio mlaen i Flwyddyn y Gwningen

6 Ionawr 2023

Image of a rabbit for the Chinese year of the rabbit 2023

Mae 22 Ionawr yn nodi Blwyddyn y Gwningen, a byddai’r tîm yn Sefydliad Confucius Caerdydd wrth eu bodd petaech yn ymuno â ni i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Bydd ein tiwtoriaid yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau preifat a chyhoeddus ar gyfer y gymuned ac ysgolion. Ymhlith y rhain mae gweithgareddau arbennig ar gyfer busnesau lleol, adloniant yn y dull Tsieineaidd mewn llyfrgelloedd lleol, dathliadau ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ac adnoddau hwyliog ac addysgol ar gyfer ysgolion.

Digwyddiadau cymunedol wyneb yn wyneb

  • Mae Hyb Llyfrgell Ganolog Caerdydd a Sefydliad Confucius Caerdydd yn eich croesawu i Ddathliad Gŵyl y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a’r Llusernau ddydd Sadwrn 21 Ionawr 12:00 – 15:00. Gweithgareddau a pherfformiadau rhad ac am ddim ar gyfer bob oedran gan gynnwys cerddoriaeth, Tai Chi, sesiynau blasu iaith a gwneud masgiau.

Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.

  • Ymunwch â Dathliad y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yng Nghanolfan y Ddraig Goch ddydd Sul 22Ionawr 12:00 – 16:00. Bydd tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd yn dathlu gyda chymysgedd o ddathliadau gan gynnwys caligraffi, torri papur, gwneud llusernau, adrodd straeon, adloniant rhad ac am ddim a bydd cynnig arbennig ar fwyd ym Mwyty Volcano.

Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.

  • Bydd Cornel Tsieineaidd gyntaf Sefydliad Confucius Caerdydd yn 2023 yn ymwneud â'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Mae cyflwyniad diwylliannol hwn, a gynhelir ddydd Mercher 25 Ionawr 18:30 – 20:00  yn esbonio traddodiadau'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a Gŵyl y Gwanwyn, yn ymchwilio i darddiad y dathliadau, yn ogystal ag archwilio caneuon gwerin traddodiadol, straeon a bwydydd.

Cadwch eich lle drwy Eventbrite.

  • Ddydd Mercher 22 Chwefror 18:30 – 20:00, bydd Sefydliad Confucius Caerdydd yn cynnal cyflwyniad  ar Wyliau Tsieineaidd a Bwyd. Bydd y cyflwyniad yn archwilio gwyliau Tsieineaidd traddodiadol pwysig a'r bwyd sy'n cael ei fwyta i ddathlu. Bydd y digwyddiad hwn yn ymchwilio i'r berthynas rhwng bwyd a diwylliant, tarddiad bwyd Tsieineaidd a'r gwahaniaeth rhanbarthol o ran sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu a'i fwyta.

Cadwch eich lle drwy Eventbrite.

Gweithgareddau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfer plant ysgol

  • Ddydd Gwener 20 Ionawr, bydd y tiwtoriaid yn Sefydliad Confucius Caerdydd yn cynnal Gŵyl Ar-lein ar gyfer y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd i ysgolion, lle byddant yn ffrydio ystod amrywiol o sesiynau rhyngweithiol byw ar gyfer plant Cyfnodau Allweddol 1 a 2 yn y bore, ac ysgolion uwchradd yn y prynhawn. Gall athrawon gofrestru i ddefnyddio’r sesiynau byw yn y dosbarth a chael mynediad at adnoddau i’w rhannu gyda’u disgyblion. Bydd y sesiynau'n cael eu recordio a'u e-bostio at athrawon yr wythnos ganlynol.

Cofrestrwch eich disgyblion yma.

  • Os yw eich ysgol yng Nghaerdydd neu'r cyffiniau, gallwch gael dau o'n tiwtoriaid ar gyfer naill ai Diwrnod Tsieina llawn (4 awr cyswllt) neu Hanner Diwrnod Tsieina (2.5 awr) rhwng 23 Ionawr a 3 Chwefror. Bydd ein tiwtoriaid yn cyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb neu ar-lein i'ch disgyblion (caligraffi, torri papur, sesiynau blasu Mandarin, cyflwyniadau llawn gwybodaeth am yr ŵyl, adrodd straeon a gwneud llusernau).

Sylwch fod y gweithgareddau hyn yn seiliedig ar argaeledd staff, a byddwn yn gofyn am gyfraniad i dalu ein costau.

Mynegwch eich diddordeb yma.

Rhannu’r stori hon