Ewch i’r prif gynnwys

Ymweliad cyntaf yr Athro Anrhydeddus sy’n gyfrifol am siapio MRI cyfoes

13 Rhagfyr 2022

Bob

Yr wythnos diwethaf, estynnodd Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) groeso i’r Athro Robert Turner – sydd wedi chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ddyfeisio coiliau gorchuddiedig gweithredol wedi’u graddio sy’n cael eu defnyddio’n eang ym maes delweddu atseiniol magnetig (MRI).

Dyma ymweliad cyntaf yr Athro Turner ers iddo ddod yn Athro Anrhydeddus Nodedig ym Mhrifysgol Caerdydd. Dechreuodd trwy draddodi darlith hynod ddiddorol ar 'The Myelin Bootstrap' - theori sy'n archwilio modelau niwroseicolegol ar gyfer datblygiad gwybyddol arferol ac annormal. Ar ôl taith o amgylch cyfleusterau CUBRIC, fe wnaeth gyfarfod â staff academaidd allweddol a myfyrwyr i drafod amrywiol gyfleoedd ar gyfer cydweithio.

Dywedodd yr Athro Turner, sydd hefyd yn gyfrifol am ddatblygu delweddu â thrylediad pwysedig o’r ymennydd dynol, ac am ddarganfod MRI swyddogaethol drwy fesur effeithiau newidiadau ocsigeniad gwaed: "Mae trefnu offer ymchwil o ansawdd uchel yn ymwneud â’r ymennydd, yn y labordy mawr digynsail hwn yn brofiad rhyfeddol mewn gwirionedd. Mae wir yn ganolfan i’r byd ar gyfer delweddu'r ymennydd."

Dywedodd Cyfarwyddwr CUBRIC, yr Athro Derek Jones: "Mae'r Athro Robert Turner (neu 'Bob' fel rydyn ni'n ei adnabod) yn bersonoliaeth hynod adnabyddus ac uchel ei barch yn y gymuned MRI. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agosach gyda Bob ar nifer o bynciau, gan fanteisio ar gyfuniad unigryw CUBRIC o offer niwroddelweddu, arbenigedd a chefnogaeth ddiwydiannol o'r radd flaenaf".

Ar hyn o bryd mae'r Athro Turner yn Gyfarwyddwr Emeritws yn Sefydliad Max-Planck-Institute ar gyfer y Gwyddorau Gwybyddol Dynol a Gwyddorau’r Ymennydd, Leipzig, ac yn Athro Anrhydeddus yn yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Prifysgol Nottingham. Yn 2020 dyfarnwyd iddo Fedal Aur y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Cyseiniant Magnetig ym maes Meddygaeth.

Ceir yma gyfweliad gyda'r Athro Derek Jones a'r Athro Turner o 2017 lle gallwch ddysgu rhagor am Robert, ei ddarganfyddiadau a dyfodol MRI.

Rhannu’r stori hon

Rydym yn un o’r cyfleusterau gorau yn Ewrop ar gyfer delweddu’r ymennydd yn gartref i gyfuniad o offer niwroddelweddu.