Ewch i’r prif gynnwys

Hwyl fawr a phob lwc

7 Rhagfyr 2022

Mae Dorottya Cserzo yn ffarwelio â thîm CUREMeDE ac yn ymuno â’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant (CASCADE).

Mae Dorottya wedi treulio ychydig mwy na 3 blynedd gyda thîm CUREMeDE lle bu’n datblygu ei gwybodaeth am addysg feddygol a dulliau gwerthuso. Bu’n ymwneud â phrosiectau a oedd yn ymchwilio i broffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth, rheoleiddio gofal iechyd a hyfforddiant meddygon teulu yng Nghymru. Bydd yn parhau i gydweithio â’r tîm wrth ledaenu canlyniadau prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar. Dyma a ddywedodd Alison Bullock, Cyfarwyddwr CUREMeDE:

“Rwy’n llongyfarch Dorottya yn gynnes ar ei phenodiad i dîm CASCADE ond bydd colled fawr ar ei hôl. Mae hi wedi gwneud cyfraniad ardderchog at waith CUREMeDE ac rwy’n falch bod yr Ysgol yn cadw ei doniau”

Bydd Dorottya yn mynd â’i hymchwil i gyfeiriad newydd yn CASCADE, gan ymgymryd â phrosiect sy’n gwerthuso deilliannau plant sy’n cael eu hecsbloetio’n droseddol o ran y gwasanaethau a gânt. Ariennir y prosiect gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a’r nod yw creu astudiaethau achos manwl o brofiadau bywyd pobl ifanc a ecsbloetiwyd yn droseddol o’r llwybrau gwasanaeth, y ddarpariaeth a’r deilliannau bum mlynedd cyn iddyn nhw dderbyn cael eu hatgyfeirio a hyd at ddwy flynedd wedi hynny.

Rhannu’r stori hon