Ewch i’r prif gynnwys

Cychwyn cyfres Cornel Tsieina drwy gael cip ar rai o gyfryngau cymdeithasol Tsieina

23 Tachwedd 2022

Ym mis Hydref trefnwyd Cornel Tsieina gyntaf Sefydliad Confucius Caerdydd, a chawson ni gipolwg ar y Tsieina gyfoes drwy edrych ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ychydig o’r cyfryngau cymdeithasol yn Tsieina

Cawson ni gyflwyniad gan Dr. Jingjing Ruan, darlithydd o Brifysgol Xiamen ac athro’r Fandarineg yn Sefydliad Confucius Caerdydd, a oedd yn ymdrin â'r cyfryngau cymdeithasol sy’n cael eu defnyddio fwyaf yn Tsieina, gan gynnwys WeChat a Weibo.  Yna rhoddodd Jingjing y cyfle i’r sawl a oedd yn cymryd rhan i ystyried effaith y rhain ar newidiadau cymdeithasol a datblygu economaidd, a thrafodwyd y manteision a’r anfanteision ynghlwm wrth y cyfryngau cymdeithasol yn Tsieina a’r tu allan iddi.

Soniodd Jingjing am ddatblygiad e-fasnach a'r diwydiant darlledu, ac ystyriodd fywyd cymdeithasol yn y Tsieina gyfoes mewn perthynas â'r pandemig. Ar ben hynny, cyflwynodd 'guanxi', sef system o rwydweithiau cymdeithasol a pherthnasoedd dylanwadol sy’n deillio o Gonffiwsiaeth, a dyma un o brif gysyniadau diwylliant busnes Tsieina ac ymwneud â phobl yn gymdeithasol.

Athrylith y cartref traddodiadol yn Tsieina

Mae'n bleser mawr gennym gyhoeddi y bydd y sesiwn nesaf o Gornel Tsieina yn cael ei chynnal wyneb yn wyneb yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Yn y digwyddiad, o'r enw 'Athrylith y cartref traddodiadol yn Tsieina', byddwn ni’n dysgu popeth am sut mae athroniaeth Tsieineaidd wedi dylanwadu ar y ffordd y mae cartrefi yn Tsieina yn cael eu hadeiladu a sut maen nhw’n gweithio o ddydd i ddydd. Y tiwtor Mandarineg Jie Chen, sydd â meistr Hanes a Theori Pensaernïaeth o Brifysgol Xiamen fydd yn arwain y sesiwn.

Dywedodd Luisa Pèrcopo, a gymerodd ran yng Nghornel Tsieina Jie ar bensaernïaeth y llynedd ei bod yn "ffordd ryngweithiol o ddysgu am ddiwylliant ac iaith Tsieina sydd bob amser yn synnu rhywun". Dyma a ddywedodd un o’r myfyrwyr, Chris Burns, a gymerodd ran yn y digwyddiad: "Gosodwyd pensaernïaeth Tsieina yng nghyd-destun hanes, daearyddiaeth, diwylliant ac athroniaeth (Conffiwsiaeth a Taoaeth) ac roedd y cyfan yn arbennig o ddiddorol."

I gofrestru ewch i'r dudalen hon.

Cornel Tsieina yn 2022-23

Lluniwyd Cornel Tsieina Sefydliad Confucius Caerdydd, sy’n digwydd unwaith y mis, ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn dysgu am Tsieina, ei diwylliant a'i hieithoedd. Ymhlith digwyddiadau'r gorffennol cafwyd sgyrsiau ar fywyd cymdeithasol, addysg a theithio yn y Tsieina gyfoes, yn ogystal â golwg ddyfnach ar Ŵyl y Gwanwyn neu, fel rydyn ni’n ei hadnabod yn well yn y Gorllewin, y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

Cynhelir sesiynau eraill cyfres 2022-23 wyneb yn wyneb yn yr Ysgol Ieithoedd Modern rhwng 6.30 ac 8pm ar y dyddiau Mercher canlynol:

  • Athrylith y cartref traddodiadol yn Tsieina - Jie Chen – 07 Rhagfyr 2022. I gofrestru ewch i'r dudalen hon.
  • Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yn 2023 - Ling He - 25 Ionawr 2023
  • Gwyliau a Bwyd Tsieineaidd – Wei Tang – 22 Chwefror 2023
  • Gerddi Traddodiadol yn Tsieina: Darn o’r Nef ar y Ddaear – Jie Chen – 29 Mawrth 2023
  • Achos o Gerddoriaeth Fodern Tsieineaidd: 10 Stori gan Fenywod yn yr albwm 3811 gan Weiwei Tan – 31 Mai 2023

Rhannu’r stori hon