Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Pensaernïaeth Cymru a Chymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru yn cynnal digwyddiad coffa David Lea ac arddangosfa

16 Tachwedd 2022

David Lea memorial event
David Lea memorial event

I ddod ag wythnos yr arddangosfa ymarfer i ben, cynhaliodd Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru (RSAW) ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) ddigwyddiad coffa ar y cyd i ddathlu a chofio David Lea a'i gyfraniad sylweddol i bensaernïaeth.

Roedd David Lea yn bensaer a oedd yn canolbwyntio ar ddylunio adeiladau mewn cytgord â'r byd naturiol. Roedd pob prosiect, boed nhw’n adeiladau gorffenedig neu’n gynlluniau, yn dangos pa mor benderfynol ydoedd i greu adeiladau effaith isel – rhai oedd yn asio â’r byd naturiol yn hytrach na bod heb berthyn iddo o gwbl.

Yn ystod y digwyddiad coffa, rhannodd siaradwyr gwadd straeon a phrofiadau ynghylch eu hamser yn cydweithio â David. Ymhlith y siaradwyr roedd Benedicte Foo, Pensaer; Darlithydd, John Sergeant, Pensaer; Darlithydd, Prifysgol Caergrawnt a Patrick Borer MBE, Pensaer; Meistr ym maes Pensaernïaeth Cynaliadwy yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen.

Dywedodd yr Athro Juliet Davis:

"Trefnwyd y digwyddiad hwn ar y cyd â Chymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru i ddathlu bywyd a chyflawniadau'r pensaer David Lea a fu farw'n gynharach yn 2022. Yn lle un ddarlith goffa, cafwyd tri chyflwyniad byr – pob un yn rhoi naratif a safbwynt personol arbennig wrth drafod y ffordd roedd David yn ymarfer, a'r gwersi y mae hynny’n ei gynnig i ddylunwyr ifanc ar ddechrau eu gyrfaoedd pensaernïol heddiw."

Mae recordiad o'r cyflwyniadau hyn ar gael isod.

Yn ystod mis Hydref, cynhaliodd y RSAW gyfres o ddwy arddangosfa mewn cydweithrediad ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru (WSA) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Roedd y rhain yn arddangos gwaith cwmnïau pensaernïol ledled Cymru ac roedd yn gyfle i fyfyrwyr gael rhagor o wybodaeth am arferion yng Nghymru ac i gyfarfod â phenseiri y prosiect er mwyn dechrau meithrin cysylltiadau.

Recordiad o ddigwyddiad coffa David Lea, RSAW

Rhannu’r stori hon