Dathlu ein rhwydwaith byd-eang o iaith a diwylliant Tsieina
1 Tachwedd 2022
Ddiwedd mis Medi, daeth tiwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd â Llyfrgell Ganolog Cymru ynghyd i ddathlu 'Diwrnod Sefydliad Confucius'.
Mae Diwrnod Sefydliad Confucius yn gyfle i rannu llwyddiannau a chyflawniadau, yn ogystal â dathlu bod yn rhan o rwydwaith byd-eang. Yng Nghaerdydd, mae pump o'n tiwtoriaid Mandarin yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer pobl leol gan gynnwys torri papur Tsieineaidd, caligraffi, 'zhongguo jie' neu 'knotting', a gwneud nodau tudalen Tsieineaidd. Yn ogystal â gwaith llaw, bu cyfle i gymryd rhan mewn 'dosbarthiadau o brofiadau Tsieineaidd' a chafwyd llawer o hwyl yn ymarfer geiriau-anodd-eu-hynganu (tongue twisters) Tsieinëeg.
Roedd cyfranogwyr hyd yn oed yn gallu cymryd eu cofroddion cartref eu hunain o'r dydd trwy baentio eu henwau mewn caligraffi ar y nodau tudalen Tsieineaidd yr oeddent newydd eu gwneud.
Mae Diwrnod Sefydliad Confucius yn ddiwrnod o ddathliadau i hyrwyddo iaith a diwylliant Tsieina. Mae'n gyfle i gymunedau ymgysylltu â'u Sefydliad Confucius lleol gan ddyfnhau’r ddealltwriaeth rhwng Tsieina a'r DU.