Ewch i’r prif gynnwys

“DEWISWCH YRFA – DEWISWCH YR ALMAEN(EG)”

20 Hydref 2022

Cynhaliodd yr Ysgol Ieithoedd Modern, ochr yn ochr â gwasanaethau addysgol blaenllaw'r Almaen, ddiwrnod gwybodaeth ynghylch gyrfaoedd yn ymwneud â’r Almaeneg i ddisgyblion ysgol uwchradd a myfyrwyr prifysgol o Gaerdydd.

Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth ynghylch gyrfaoedd posib a’r rhagolygon ar gyfer y rhai sy'n dymuno dilyn yr Almaeneg, ac fe gynhaliwyd sesiynau blasu ar gyfer disgyblion o wahanol lefelau o hyfedredd.

Daeth dros 270 o ddisgyblion o Dde Cymru sy’n astudio’r Almaeneg i’r digwyddiad yn y brifysgol a gynhaliodd Goethe-Institut yn Llundain mewn cydweithrediad â Llysgenhadaeth yr Almaen yn Llundain, Gwasanaeth Cyfnewid Academaidd yr Almaen (DAAD) ac UK-German Connection.

Cafwyd rhaglen amrywiol o gyflwyniadau byr a gweithdai gan arbenigwyr o sefydliadau addysgol yn ogystal â stondinau amrywiol gyda’r nod o ddangos perthnasedd yr Almaeneg i ystod o yrfaoedd a sut y gall astudio’r Almaeneg wella cyfleoedd gwaith gartref neu dramor.

Roedd Llysgennad yr Almaen Miguel Berger hefyd yn bresennol yn y digwyddiad a chynhaliodd sesiwn holi ac ateb yn Siambr y Cyngor, yng nghwmni Pennaeth yr Ysgol Ieithoedd Modern, yr Athro David Clarke i gloi’r digwyddiad.

Dywedodd Marc Schweissinger, darlithydd yn yr Almaeneg yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac un o gydlynwyr y digwyddiad: “Roeddem ni fel adran yn hynod hapus gyda’r niferoedd o fyfyrwyr fu’n rhan o’r digwyddiad a hefyd gyda’r ymgysylltiad a ddigwyddodd yn rhan o’r digwyddiad. Mwynhaodd yr athrawon a’r myfyrwyr yr ystod eang o weithgareddau’n fawr iawn a gobeithiwn y bydd digwyddiadau fel hyn yn eu harwain yn uniongyrchol at ysbrydoli’r garfan nesaf o fyfyrwyr Ieithoedd Modern.”

Mae gan y Goethe-Institut swyddfa loeren yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ac mae'r bartneriaeth bresennol hon gyda Phrifysgol Caerdydd yn golygu bod nifer o ddigwyddiadau a chyfleoedd fel hyn yn cael eu cynnig i fyfyrwyr sy'n dewis astudio Almaeneg yn yr ysgol.

Rhannu’r stori hon