Ewch i’r prif gynnwys

System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg

10 Hydref 2022

Mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn unigryw.

Er bod gan y wlad ei llywodraeth a'i senedd ddatganoledig ei hun, nid oes system cyfiawnder fel yr Alban na Gogledd Iwerddon yng Nghymru. Yn hytrach, mae awdurdod sefydliadau cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn parhau i redeg.

Ac eto mae cyfrifoldebau sylweddol sefydliadau datganoledig Cymru yn golygu eu bod o anghenraid yn chwarae rhan allweddol mewn cyfiawnder troseddol. O ganlyniad, mae system cyfiawnder troseddol Cymru yn gweithredu ar draws 'y rhwyg'; rhwng pwerau a chyfrifoldebau datganoledig a’r rhai a gadwyd yn ôl.

Mae'r llyfr hwn yn rhoi’r adroddiad academaidd cyntaf o'r system hon. Mae’n dangos nid yn unig fod gan Gymru rai o’r canlyniadau cyfiawnder troseddol gwaethaf yng ngorllewin Ewrop, ond hyd yn oed pe bai’r ewyllys yn bodoli i geisio mynd i’r afael â’r problemau hyn, mae seiliau cyfansoddiadol presennol system cyfiawnder troseddol Cymru yn gwneud hynny bron yn amhosibl.

Yn seiliedig ar ddata swyddogol a chyfweliadau manwl, dyma lyfr pwysig, heriol a ddylai beri gofid mawr. Mae’n ddarllen hanfodol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yng ngwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru.

Cyhoeddir y llyfr gan Wasg Prifysgol Cymru ar Hydref 15fed, a bydd y lansiad cyhoeddus yn digwydd ar Hydref 26ain ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae manylion cofrestru ar gael drwy ddilyn y ddolen hon.

Rhannu’r stori hon