Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn datgelu hanes hinsawdd gorffennol Cape Town

22 Medi 2022

Mae goleuni newydd wedi’i daflu ar hanes hinsawdd De Affrica.

Mae'r Ymddiriedolaeth Olrhain Hanes, gyda chymorth Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wits, wedi digido a thrawsgrifio cofrestrau dyddiol Dutch East India Company a ysgrifennwyd rhwng 1652 a 1791, a hynny’n rhan o brosiect a gynhaliwyd dros saith mlynedd.

Yn ei phapur cyntaf sy’n astudio'r cofnodion hyn, a gyhoeddwyd yn Bulletin of the American Meteorological Society, mae’r awduron yn datgelu pa effaith y cafodd y tywydd a’r hinsawdd ar bobl rhwng 1773 a 1791.

Mae'r canfyddiadau'n dangos y cafwyd mwy o ddiwrnodau o law, ar gyfartaledd, yn ystod y cyfnod hwn nag ar unrhyw adeg ers hynny. Mae'r cofnodion hefyd yn atgyfnerthu'r hyn y mae gwyddonwyr eisoes yn ei wybod am y cynnydd mewn tymheredd dros y canrifoedd diwethaf.

Dywedodd Dr Mark Williams o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Er ein bod yn gwybod llawer am hinsawdd hanesyddol Hemisffer y Gogledd, mae llawer llai o astudiaethau wedi’u cynnal i ymchwilio i Hemisffer y De. Dyna pam mae'r cofnodion gan Dutch East India Company mor werthfawr ac yn haeddu cael eu hastudio ymhellach.

“Mae'r data beunyddiol yn y cofrestrau dyddiol yn ei gwneud yn bosibl dadansoddi bywydau bob dydd pobl y Cape yn ddyfnach, gan gynnwys cynlluniau’r system drefedigaethol. Yn aml, yr hyn sydd wedi'i gynnwys mewn canonau ‘hanes’ yw digwyddiadau gwleidyddol mawr a fflachbwyntiau eraill, ond drwy lens bywyd bob dydd, gallwn, dros amser, weld tueddiadau ehangach sy’n cael effaith amgylcheddol a chymdeithasol fawr.

Gallwn hefyd weld y rhyng-gysylltiad rhwng systemau tywydd a systemau economaidd ar draws daearyddiaethau. Er enghraifft, effeithiodd ffrwydradau folcanig mawr ar y tywydd a'r hinsawdd yn y Cape. Hefyd, pe buasai monsŵn yng Nghefnfor yr India neu amodau rhewllyd yng Nghefnfor yr Iwerydd, byddai hynny wedi effeithio ar fasnach. Yn amlwg, roedd y cofnodion tywydd manwl hyn hefyd yn fodd i’r ymerodraethau trefedigaethol allu rheoli symudiad llongau ac felly’r trefedigaethau’n gyffredinol.”

Dywedodd yr Athro Stefan Grab o’r Ysgol Daearyddiaeth, Archaeoleg ac Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Wits: “Mae'r cofrestrau dyddiol yn gofnod digynsail o hanes De Affrica sy'n trin a thrafod llawer o bynciau fel tywydd bob dydd, economeg, masnach a chrefydd.  Y cofnod tywydd dyddiol, yn benodol, sy’n cynnwys y data mwyaf cynhwysfawr – ni all mathau eraill o gofnodion tywydd (o ddeunydd organig, er enghraifft) roi gwybodaeth mor fanwl.

“Bryd hynny, ni fyddai pobl wedi cael cymaint o effaith ar y tywydd. Gwelwn fod y byd wedi cynhesu fwyfwy ers y chwyldro diwydiannol, ac mae ein hymchwil yn cynnig gwybodaeth am sut mae'r tywydd a'r hinsawdd leol wedi newid mewn ymateb i gynhesu o'r fath.”

Mae’r papur yn cael ei gyhoeddi tua’r un adeg ag y cwblhawyd y gwaith o drawsgrifio’r cofrestrau dyddiol, sy'n rhychwantu bron i 140 o flynyddoedd. Mae'r rhain wedi'u trosglwyddo i'r Hag, a byddant ar gael ar-lein cyn bo hir.

Mae ‘The late 18th-century climate of Cape Town, South Africa, based on the Dutch East India Company ‘Day Registers’ (1773-1791)’ ar gael yma.

Rhannu’r stori hon