Ewch i’r prif gynnwys

Mae’r Brifysgol yn parhau â’i hymrwymiad i fod yn sefydliad gwrth-hiliol

11 Gorffennaf 2022

Bellach, yn rhan o'i hymrwymiad i fod yn sefydliad gwrth-hiliol digyfaddawd, mae Prifysgol Caerdydd yn un o sefydliadau ategol Cynghrair Hil Cymru.

Nod Cynghrair Hil Cymru yw cyfrannu at Gymru sy’n fwy cyfartal, yn fwy cydlynus ac yn gyfrifol yn fyd-eang, yn ogystal â pheri bod Cymru'n lle diogel a chroesawgar lle mae hawliau'n cael eu mwynhau a lle gall pobl sy’n cael eu trin ar sail eu hil ffynnu.

A ninnau’n sefydliad ategol, bydd y Brifysgol yn rhannu syniadau ac yn cefnogi amcanion Cynghrair Hil Cymru, yn ogystal â chael y cyfle i gyfarfod ag unigolion a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn sicrhau cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Ar ben hynny, mae'r Brifysgol wedi llofnodi adduned Dim Hiliaeth Cymru Cyngor Hil Cymru (RCC), sef polisi dim goddefgarwch sy'n galw ar sefydliadau yng Nghymru i sicrhau na fydd yr un ymgeisydd am swydd, yr un ymwelydd na’r un gwestai sefydliad yn cael ei drin yn llai ffafriol ar unrhyw sail nad yw'n berthnasol i arferion cyflogaeth da.

Mae enwau'r holl sefydliadau sy'n ymrwymo i'r adduned yn ymddangos ar restr gyhoeddus ar wefan Dim Hiliaeth Cymru er mwyn eu dal yn atebol.

Dyma a ddywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rydyn ni’n glir ynghylch ein cyfrifoldeb i fod yn gynhwysol ac i annog amrywiaeth o feddwl a gweithredu drwy ein gweithredoedd.

"Rydyn ni’n cymryd yr holl gamau y gallwn i fod yn sefydliad gwrth-hiliol. Mae ein cysylltiadau â Chynghrair Hil Cymru ac addewid Dim Hiliaeth Cymru yn mynd â ni gam arall ymhellach ar ein taith."

Rhannu’r stori hon