Ewch i’r prif gynnwys

Mae Shruti Narayan yn ymuno â'r tîm

12 Gorffennaf 2022

Mae CUREMeDE yn croesawu Shruti Narayan i'r tîm.

Mae Shruti yn ymuno â ni ar leoliad dros yr haf a bydd yn helpu ymchwilydd CUREMeDE Sophie Bartlett ar ein prosiect fferyllwyr cyflawn.

“Sut mae! Fy enw i yw Shruti Narayan ac rwy ar fin dechrau trydedd flwyddyn fy ngradd BSc Seicoleg. Wrth imi astudio ar gyfer fy ngradd, rwy wedi canfod fy hun yn teimlo’n gynyddol angerddol ynghylch ymchwil a sut mae'n effeithio ar wybodaeth cymdeithas ac yn gwella’r wybodaeth honno. Rwy wrth fy modd yn cael gwneud interniaeth dros yr haf yn gynorthwyydd ymchwil ar gyfer prosiect CURMeDE sy'n ymwneud â Fferyllwyr Cyflawn: Canllaw i gyflogwyr ar gael y gorau o fferyllwyr amlsector sydd newydd eu cymhwyso i wella gofal i gleifion Rwyf hynod gyffrous i fod yn cyd-weithio ag unigolion angerddol, medrus a chymwys tîm CURMeDE."

Rhannu’r stori hon