Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth: Fferyllwyr eang eu medrau

29 Mehefin 2022

Photo by Anna Shvets

Ydych chi'n cyflogi neu'n goruchwylio fferyllwyr newydd gymhwyso yng Nghymru?

Hoffech chi ddysgu rhagor am sut i sicrhau bod fferyllwyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant amlsector yn defnyddio eu sgiliau i eithaf eu gallu?

Os felly, mae CUREMeDE ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyfnewid gwybodaeth a fydd yn archwilio safbwyntiau a phrofiadau cyflogwyr a goruchwylwyr o weithio gyda fferyllwyr sydd wedi’u hyfforddi â sgiliau aml-sector.

Rydym yn awyddus i glywed barn unigolion obob un o sectorau’r byd fferylliaeth.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddod ynghyd â chydweithwyr i drafod mater sy’n hynod berthnasol i dirwedd addysg fferyllwyr ac i’w hyfforddiant cychwynnol, sydd y naill fel y llall yn newid. Bydd trafodaethau o’r fath yn llywio’r gwaith o ddatblygu deunyddiau a fydd ar gael yn eang i gyflogwyr ledled Cymru.

Bydd y digwyddiadau yn rhai drwy gyfrwng y Saesneg a byddant yn cael eu cynnal yn rhithwir dros Microsoft Teams ar y dyddiadau canlynol:

Cydweithwyr Cymunedol a Meddygon Teulu

Cydweithwyr o Ysbytai

Dydd Llun 4 Gorffennaf – 12:00-13:00

Dydd Iau 7 Gorffennaf – 12:00-13:00

Dydd Iau 30 Mehefin – 12:00-13:00

Dydd Llun 11 Gorffennaf – 12:00-13:00

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a sut y gallwch gofrestru, cysylltwch â Sophie Bartlett.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi!

Rhannu’r stori hon