Ewch i’r prif gynnwys

Gŵyl O’ch Achos Chi

24 Mehefin 2022

Mae cefnogwyr y Brifysgol wedi bod yn gwrando droson nhw eu hunain ar sut effaith gafodd eu rhoddion, eu hamser a'u hymdrechion i godi arian, a hynny mewn diwrnod blynyddol o ddiolch.

Yn sgîl 'Gŵyl O’ch Achos chi' roedd y sawl fu’n bresennol yn gallu deall mewn ffordd hynod o fyw sut mae cefnogi'r Brifysgol, ei hymchwilwyr a'i myfyrwyr yn dod â manteision go iawn i’r boblogaeth.

Ymhlith y gwesteion roedd y rheini a gynigiodd rodd i'r Brifysgol neu a addawodd rodd yn eu hewyllys yn ogystal â'u cefnogwyr a redodd yn Hanner Marathon Caerdydd gan godi arian ar gyfer ein hymchwil.

Roedd y diwrnod hefyd yn anrhydeddu'r gwirfoddolwyr a oedd wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i helpu ein myfyrwyr yn ystod diwrnodau agored, sgyrsiau gyrfaoedd a thrwy interniaethau, neu i fod yn aelodau o fyrddau cynghori a Llys y Brifysgol.

[VIDEO]

Dyma a ddywedodd Greg Spencer, Dirprwy Gyfarwyddwr Datblygu a Phennaeth Codi Arian adran Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol: "Gwych o beth oedd gallu croesawu cynifer o'n cefnogwyr yn ôl i'r campws i weld y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud. Diolch i'r unigolion hyn, mae ein myfyrwyr wedi elwa o'n gwasanaethau iechyd meddwl a lles yn ogystal â chael cyfleoedd o ran cyflogadwyedd a’r cyfle hyd yn oed i roi cynnig ar ymchwil drostyn nhw eu hunain.

"Mae ein cefnogwyr hefyd wedi helpu ein hymchwilwyr i gyflymu darganfyddiadau ym maes ymchwil canser, ymchwil i niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac imiwnoleg, gan wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sy'n dioddef o ystod o afiechydon gan gynnwys ganser iselder, arthritis, sepsis a dementia.

"Maen nhw hefyd wedi gwneud cyfraniad go iawn i'r Brifysgol, gan lunio ei chyfeiriad strategol. Roedd yn ddiwrnod gwych ac rydyn ni mor ddiolchgar i bob un o'n rhoddwyr, codwyr arian a gwirfoddolwyr am eu cefnogaeth barhaus."

Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Bywyd Myfyrwyr y Brifysgol, gwrandawodd y gwesteion ar dri ymchwilydd gyrfa gynnar sydd wedi derbyn cyllid ar gyfer eu gwaith.

Cawsant hefyd daith o amgylch yr adeilad a gwrando ar fyfyrwyr am y gefnogaeth a'r cyfleoedd a oedd ar gael iddyn nhw diolch i'w haelioni.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan a oedd hefyd yng nghwmni Cadeirydd y Cyngor, Pat Younge (BSc 1987).

Dewch i wybod rhagor am gefnogi'r Brifysgol drwy wneud rhodd, gadael rhodd yn eich Ewyllys, gwirfoddoli eich amser a'ch arbenigedd, codi arian neu redeg Hanner Marathon Caerdydd gyda #TeamCardiff.

Rhannu’r stori hon