Ewch i’r prif gynnwys

Cydnabyddiaeth swyddogol i gwrs seiberddiogelwch

16 Mehefin 2022

Mae cwrs MSc Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd wedi'i ardystio'n llawn gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn y DU.

Mae’r NCSC – sy'n rhan o GCHQ – yn ardystio cyrsiau sy'n cynnig addysg seiberddiogelwch o safon uchel.

Y nod yw helpu myfyrwyr i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch yr ystod o gyrsiau sydd ar gynnig ym mhrifysgolion y DU a rhoi hyder i gyflogwyr bod gan y rhai sydd wedi gwneud y cyrsiau hyn sgiliau seiber gwerthfawr.

Mae modd ardystio cwrs yn llawn neu dros dro – gellir ardystio cwrs yn llawn pan fydd o leiaf un garfan o fyfyrwyr wedi gwneud y cwrs, a gellir ardystio unrhyw gwrs dros dro, gan gynnwys cwrs nad yw o bosibl wedi dechrau cael ei gynnal eto. Mae'r safon ofynnol yr un fath yn y ddau achos.

Mae'r NCSC wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau seiber yn y DU i fynd i'r afael â'r bwlch presennol mewn sgiliau. Yn ôl Strategaeth Seiber Genedlaethol Llywodraeth y DU, mae gweithlu'r sector seiberddiogelwch wedi tyfu tua 50% yn ystod y pedair blynedd diwethaf, ac mae’r galw am sgiliau’n aml yn fwy na’r cyflenwad.

Yn 2022, ardystiwyd cwrs MSc Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd yn llawn i gydnabod bod adnoddau addysgu a dysgu’r cwrs o ansawdd uchel a bod y cynnwys sy’n cael ei addysgu yn rhan o’r cwrs blwyddyn mor eang.

Ac yntau wedi'i ddatblygu ar y cyd â’r diwydiant ac wedi'i alinio â meini prawf ardystio’r NCSC, mae'r cwrs MSc Seiberddiogelwch yn esbonio’r egwyddorion, arferion, adnoddau a thechnegau diweddaraf ym maes seiberddiogelwch i’r myfyrwyr.

Yn ogystal ag astudio pynciau technegol fel datblygu cymwysiadau diogel, gwneud profion treiddio, diogelu cymwysiadau gwe, dadansoddi meddalwedd maleisus a gwneud gwaith fforensig digidol, bydd y myfyrwyr yn magu dealltwriaeth o risgiau seiberddiogelwch a sut i’w rheoli, yn ogystal ag agweddau ar barhad busnes a thrawsnewid busnes sy’n hanfodol i seibergadernid yn rhan o dirwedd o fygythiadau sy'n esblygu’n gyson.

Mae’r cwrs MSc Seiberddiogelwch yn cael ei arwain gan dîm o ymchwilwyr seiberddiogelwch blaenllaw. Mae pob un ohonynt yn aelodau o Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch Caerdydd, sydd wedi’i chydnabod gan yr NCSC a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg yn Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch.

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal mewn labordy seiberddiogelwch a fforenseg dynodedig â digonedd o offer, mewn adeilad modern gwerth £39 miliwn a agorodd yn ddiweddar sy’n gartref i’r Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg a'r Ysgol Mathemateg. Mae’r cwrs yn paratoi’r myfyrwyr ar gyfer un o'r rolau y mae’r galw mwyaf amdanynt. Mae’r graddedigion yn symud ymlaen i gyflawni amrywiaeth o rolau ym meysydd seiberddiogelwch, gwaith fforensig digidol a’r gwyddorau data.

Prifysgol Caerdydd yw un o'r sefydliadau proffil uchel diweddaraf yn y DU i gynnig cwrs seiberddiogelwch i ôl-raddedigion sydd wedi'i ardystio'n llawn gan yr NCSC.

Wrth wneud y cyhoeddiad, dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Twf Seiber yr NCSC: "Rwy'n falch iawn o’r ffaith bod cwrs MSc Seiberddiogelwch Prifysgol Caerdydd bellach wedi'i ardystio'n llawn gan yr NCSC.

“Mae cynnig cwrs ardystiedig yn helpu darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau mwy gwybodus ynghylch gyrfa yn y dyfodol, a gall cyflogwyr fod yn hyderus bod gan y rhai sydd wedi gwneud cwrs o’r fath wybodaeth dda a sgiliau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y diwydiant.”

Dywedodd yr Athro Peter Burnap, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch Caerdydd: “Rwy’n hynod falch o’r ffaith bod ein cwrs MSc wedi’i ardystio’n llawn gan yr NCSC a bod Prifysgol Caerdydd wedi’i chydnabod yn un o’r lleoedd gorau yn y DU i astudio seiberddiogelwch.

“Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu'r cyrsiau gorau er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gwybod eu bod yn cael profiad dysgu unigryw sy'n eu paratoi ar gyfer byd gwaith.

“Ni fu erioed amser mwy cyffrous a phwysig i ddechrau gyrfa ym maes seiberddiogelwch. A ninnau’n gartref i nifer o ganolfannau ymchwil proffil uchel a phrosiectau sy’n gofyn cydweithio â’r diwydiant, rydym yn dod yn ddewis amlwg i ddechrau'r daith honno.”

Dywedodd Dr Yulia Cherdantseva, arweinydd y cwrs MSc Seiberddiogelwch: "Mae ardystio ein cwrs yn llawn yn gydnabyddiaeth o’r holl waith caled a wnaed gan ein tîm addysgu i’w gynllunio a’i gynnal dros y blynyddoedd. Mae'r tîm wedi gweithio gyda'i gilydd a chydweithio â’r diwydiant i ddatblygu cwrs a fydd yn mynd i'r afael â’r angen am sgiliau seiber a'r ffaith bod gweithwyr seiberddiogelwch proffesiynol a chymwys yn brin iawn yn y DU a thu hwnt.

"Mae’r cwrs wedi'i gynllunio i wneud yn siŵr bod gan raddedigion ddealltwriaeth gadarn o'r cysyniadau damcaniaethol a'r sgiliau seiberddiogelwch y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae'r cwrs hwn yn gam nesaf rhagorol i unrhyw un sydd am weithio ym maes seiberddiogelwch.”

Rhannu’r stori hon