Ewch i’r prif gynnwys

Mae Alison Bullock yn gwneud cyflwyniad yn nigwyddiad blynyddol y Gymdeithas Mewnblaniadau Deintyddol (ADI)

7 Mehefin 2022

Alison Bullock

O’r diwedd, wedi iddo gael ei ohirio am ddwy flynedd o ganlyniad i'r pandemig, cynhaliwyd y digwyddiad ADI ddiwedd mis Mai. Mae'r sawl fu’n trefnu’r digwyddiad i'w llongyfarch am annog presenoldeb timau deintyddol yn eu cyfanrwydd.

Roedd y cyflwyniad a roddodd Alison i wahoddedigion yn rhan o'r 'ddadl fawr – a yw cymysgedd sgiliau'n ddiogel'. O dan gadeiryddiaeth Fiona Sandon, roedd Alison yn falch o rannu'r llwyfan gyda Michaela O-Neill a Sue Boynton. Bu iddynt oll gyfleu negeseuon cyffredin.

Defnyddiodd Alison astudiaethau o faes fferylliaeth a hedfanaeth gan gloi’r cyflwyniad â negeseuon allweddol:

  • Mae cymysgu sgiliau yn wir ddiogel, pan fydd y tîm yn gweithio'n dda.
  • Mae cymysgedd sgiliau da yn gofyn am: ethos ymarfer cydweithredol (cyd-barch ac ymddiriedaeth); aelodau tîm sy'n gymwys o ran eu cwmpas ymarfer (y bobl gywir sydd â'r sgiliau cywir yn y rolau cywir); ac ymrwymiad i gael y wybodaeth ddiweddaraf am dystiolaeth sy'n newid.
  • Yr hyn sy’n cefnogi gwaith tîm yw: addysg barhaus; arweinyddiaeth dda a chyfathrebu effeithiol (o fewn y tîm a chyda chleifion).

Nid yw gwaith tîm yn digwydd ohono’i hun, mae angen ei feithrin. Mae'r Adnodd Hunanwerthuso Optimeiddio Sgiliau (SOSET) wedi'i gynllunio i gefnogi'r tîm deintyddol cyfan i adolygu'n feirniadol sut maen nhw'n mynd i'r afael â chymysgedd sgiliau wrth ddarparu gofal iechyd y geg yn eu hymarfer. Mae SOSET yn nodi saith 'dimensiwn', pob un â phedair lefel i helpu timau i nodi meysydd blaenoriaeth i'w gwella. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn darparu hwyluswyr gwella ansawdd i gefnogi trafodaethau tîm am gymysgedd sgiliau. Mae'r fideo byr hwn yn nodi'r broses SOSET: Proses SOSET

Rhannu’r stori hon