Cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer rhagor o brosiectau ynni gwynt alltraeth
9 Mehefin 2022
Mae’r Ysgol Peirianneg wedi sicrhau cyfran gwerth €820k o grant gwerth €4.2M gan Rwydweithiau Doethurol Marie Skłodowska-Curie Actions sy’n rhan o Horizon Europe, a hynny i ddatblygu technolegau ynni adnewyddadwy mwy effeithlon a dibynadwy.
Nod ADOreD (cyflymu defnydd o wynt alltraeth drwy ddefnyddio technoleg cerrynt union) yw hyfforddi 15 o fyfyrwyr rhyngwladol i greu cronfa o arbenigwyr ynni hynod fedrus a chyflogadwy. Bydd y prosiect yn dod â 19 o sefydliadau o naw gwlad ar draws y DU, Tsieina ac Ewrop ynghyd.
Bydd Prifysgol Caerdydd yn hyfforddi pedwar o'r myfyrwyr PhD ac yn croesawu eraill ar secondiad. Bydd yr ymgeiswyr yn arbenigo mewn ynni gwynt a gridiau cerrynt union ar gyfer trawsyrru ynni adnewyddadwy i gridiau trydan a chwsmeriaid. Bydd amser yr ymchwilydd yn cael ei rannu rhwng y diwydiant a'r byd academaidd, a bydd yn ymdrin â gwahanol lunwyr polisïau, diwydiannau, academyddion a chwsmeriaid.
Mae'r consortiwm yn rhan o raglen Marie Skłodowska-Curie Actions. Yn rhan o’r rhaglen honno, mae'n Rhwydwaith Doethurol (Rhwydwaith Hyfforddiant Cychwynnol gynt).
Y grŵp yw’r cyntaf yn y rhwydwaith i ganolbwyntio ar ynni gwynt alltraeth a thechnolegau cerrynt union, ac mae’n cynnwys cyfuniad unigryw o academyddion a diwydiannau sy’n cydweithredu’n rhyngddisgyblaethol ac yn rhyngwladol. Mae'r consortiwm wedi cael y maen i’r wal yn barhaus o ran hyfforddiant PhD ym maes ynni adnewyddadwy a thechnoleg cerrynt union, sydd wedi sicrhau cydnabyddiaeth yn genedlaethol ac yn fyd-eang.
Mae’r consortiwm wedi datblygu o ganlyniad i gyfres o brosiectau llwyddiannus blaenorol dan arweiniad yr Athro Jun Liang yn Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd. Mae’r rhain yn cynnwys MEDOW (grid cerrynt union aml-derfynell ar gyfer gwynt alltraeth) rhwng 2013 a 2017, a arweiniodd at InnoDC (offer arloesol ar gyfer gwynt alltraeth a gridiau cerrynt union) rhwng 2017 a 2021. Bydd y prosiect ADOreD presennol ar waith am bedair blynedd, gan ddechrau ym mis Medi 2022.
Mae prosiectau’r grŵp yn parhau i dyfu a datblygu, gan gynnwys recriwtio rhagor o ymchwilwyr academaidd a chydweithredu’n fwy â’r diwydiant.
Mae rhagor o wybodaeth am Rwydweithiau Doethurol Marie Skłodowska-Curie Actions ar gael yn: https://marie-sklodowska-curie-actions.ec.europa.eu/actions/doctoral-networks