Ewch i’r prif gynnwys

Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig

12 Mai 2022

Boats at Dragon Boat Festival, China
Llun gan Samuel Wong ar Unsplash

Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn eich gwahodd i ddathlu Gŵyl Cychod y Ddraig: diwrnod o weithgareddau byw ar-lein.

Ddydd Gwener 27 Mai, gall disgyblion fwynhau'r digwyddiad yn rhithwir drwy sesiynau rhyngweithiol gyda'n tiwtoriaid.

Byddwn yn cynnal tair set o dair sesiwn ar gyfer cyfnodau allweddol 1, 2 a 3 lle gall plant ddysgu am darddiad y digwyddiad, dysgu geiriau Mandarin ac ymadroddion sy'n gysylltiedig â'r ŵyl, darganfod beth mae pobl Tsieineaidd yn ei fwyta a gwneud papur 'zongzi' (twmplenni reis wedi'u lapio)!

Cyfnod Allweddol 1

SesiwnAmserPwnc
1a09:05 - 09:30

Traddodiadau ac arferion Gŵyl Cychod y Ddraig


Darganfyddwch wreiddiau Gŵyl Cychod y Ddraig

1b09:35 - 10:00

Dosbarth Mandarin sylfaenol ar gyfer disgyblion CYFNOD ALLWEDDOL 1

Dysgwch ychydig o Tsieineaidd Mandarin sy'n gysylltiedig â'r diwrnod arbennig hwn

1c10:05 - 10:30

Torri papur Tsieineaidd traddodiadol

Gwnewch eich cwch draig eich hun yn ein gweithdy celf a chrefft

Cyfnod Allweddol 2

SesiwnAmserPwnc
2a11:05 - 11:30

Cyflwyniad i Ŵyl Cychod y Ddraig

Darganfyddwch sut ddechreuodd yr ŵyl a rhai o'i harferion

2b11:35 - 12:00

Dosbarth Mandarin sylfaenol ar gyfer disgyblion CYFNOD ALLWEDDOL 2

Dysgwch rywfaint o eiriau ac ymadroddion ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn

2c12:05 - 12:30

Bwyd a lluniau Gŵyl Cychod y Ddraig

Darganfyddwch 'zongzi' a rasio cychod y ddraig: Gweithdy celf a chrefft.

Cyfnod Allweddol 3

SesiwnAmserPwnc
3a13:35 - 14:00

Traddodiadau ac arferion Gŵyl Cychod y Ddraig

Cyflwyniad byr i wreiddiau ac arferion yr ŵyl

3b14:05 - 14:30

Dosbarth Mandarin sylfaenol ar gyfer disgyblion CYFNOD ALLWEDDOL 3

Dysgwch sut i ddweud "Rwy'n bwyta zongzi yng Ngŵyl Cychod y Ddraig" a mwy

3c14:55 - 15:00

Gwneud 'zongzi' gan ddefnyddio'r grefft o blygu papur Tsieineaidd

Gwnewch eich bwyd eich hun ar gyfer yr ŵyl arbennig... ond bwyd o bapur!

Byddwn hefyd yn sicrhau bod y sesiynau wedi'u recordio ar gael ar ôl y digwyddiad. Byddwch yn gallu gwylio'r rhain ar wefan Prifysgol Caerdydd o 6 Mehefin.

Sylwch y byddwn yn defnyddio Gweminarau Zoom ar gyfer y digwyddiad hwn i wneud y mwyaf o ddiogelu a diogelwch.

Cofrestrwch eich dosbarthiadau

Boats at Dragon Boat Festival, China
Llun gan Samuel Wong ar Unsplash

Rhannu’r stori hon