Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Haf Rithwir Prifysgol Caerdydd

13 Ebrill 2022

Bydd Dorottya Cserző yn cymryd rhan yn yr Ysgol Haf Rithwir a drefnir gan y Tîm DPP.

Bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn cael ei gynnal rhwng 13 a 23 Mehefin, gan gynnwys cyfres o weminarau o Ganolfannau a Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol sy’n cyfrannu at ddatblygiad proffesiynol a sgiliau parhaus. Bydd sesiwn Dr. Cserző, o’r enw Exploring the development of remote consultation skills in healthcare training, yn cael ei chynnal o 11am ddydd Gwener 17 Mehefin.

Mae'r sesiwn yn cyflwyno prosiect ymchwil cynlluniedig sy'n trin a thrafod y gwaith o ddatblygu sgiliau ymgynghori o bell ym maes hyfforddiant gofal iechyd. Bydd y sesiwn yn dechrau drwy adolygu'r llenyddiaeth am hyfforddi sgiliau ymgynghori ac ymgynghori o bell. Yn yr ail hanner bydd y siaradwraig yn gwahodd barn a safbwyntiau ar y ffordd gyfredol o ystyried yr hyfforddiant. Argymhellir y sesiwn ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb ym maes addysg gofal iechyd, ymgynghori o bell, a sgiliau cyfathrebu.

Lawrlwythwch y rhaglen lawn o ddigwyddiadau a chofrestrwch nawr.

Rhannu’r stori hon