Ewch i’r prif gynnwys

Pandemigau’r gorffennol a’r presennol: Sut ydyn ni’n dioddef a beth all archwiliad archeolegol newydd ar y Pla Du ei ddatgelu?

24 Mawrth 2022

Mae ENDURE yn bwriadu datgelu effaith anwastad y Pla Du a’i rhoi ochr yn ochr â phrofiadau o bandemig byd-eang yn yr 21ain ganrif.

Mae prosiect archaeoleg newydd mawr yn bwriadu manteisio ar fàs critigol ac arloesol o ddata archeolegol mewn gwyddoniaeth archeolegol i archwilio sut wnaeth argyfyngau’r 14eg a’r 15fed ganrif drawsnewid y ffordd drefol o fyw.

Dros bum mlynedd, bydd Urban Life in a Time of Crisis: Enduring Urban Lifeways in Later Medieval England (a elwir hefyd yn ENDURE) yn cymhwyso methodoleg aml-radd i ail-greu profiad trefol amrywiol.

Gan ganolbwyntio ar drefi bach Lloegr, bydd ENDURE yn archwilio pa elfennau o fywyd bob dydd a barhaodd a pha elfennau a newidiodd am byth.

Bydd yr ymchwil hon gan Archaeoleg Caerdydd yn ail-greu'r cysylltiadau hyn drwy fethodoleg aml-radd sy'n cyfuno data mawr sy'n cynrychioli cannoedd o gloddiadau archeolegol mewn trefi bach canoloesol, data hanesyddol a thechnegau gwyddonol blaengar.

Mae'r prosiect hwn a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd yn cysyniadu trefi fel llefydd cyfnewidiol sydd yn dod i’r amlwg, sy'n cynnwys cysylltiadau lluosog a chymhleth rhwng pobl, deunyddiau, anifeiliaid a phlanhigion. Gan ddefnyddio dyddio radiocarbon o lipidau a echdynnwyd o grochenwaith, bydd yn cynnig datrysiadau cronolegol heb eu hail i asesu canlyniadau'r argyfwng ar gyfer cymunedau trefol.

Gyda'i bwyslais ar ddygnwch, nod y prosiect newydd mawr hwn yw creu gofod dehongli newydd i ddeall profiadau byw o argyfwng yn ystod yr oesoedd canol. Bydd yn adeiladu ar ddealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd, pla ac aflonyddwch gwleidyddol mewn astudiaethau canoloesol i esbonio parhad o ran caledi a gallu dynol i wrthsefyll neu gynnal newid.

Gan ddefnyddio dadansoddiad isotopau o weddillion anifeiliaid a dadansoddi lipidau a dynnwyd o grochenwaith i gynhyrchu data manylder uwch, bydd ENDURE yn creu fframwaith cysyniadol a methodolegol integredig sy'n gallu datgelu’r profiadau amrywiol a brofwyd gan bobl mewn trefi’r canoloesoedd.

Bydd ENDURE yn ymdrin â thri maes gwahanol er mwyn amlygu elfennau gwahanol o fywyd pob dydd canoloesol:

  • cynhyrchu (amaethyddiaeth, prosesu bwyd)
  • masnach (darpariaethau)
  • domestig (coginio, yr amgylchedd trefol)

Ar adeg pan fo'r byd yn ailgodi ar ei draed ar ôl effeithiau pandemig COVID19, dywedodd Dr Ben Jervis, arweinydd prosiect Endure a Phennaeth Archaeoleg a Chadwraeth:

“Gan atseinio’n gryf â’n hamgylchiadau presennol wrth i ni ddelio ag effeithiau anwastad pandemig COVID-19, bydd ENDURE yn ein galluogi i ddeall sut y teimlwyd effeithiau gan wahanol grwpiau mewn cymdeithas chwe chanrif yn ôl, gan nodi newidynnau cyd-destunol allweddol.

"Er bod yr argyfwng yn y 14eg ganrif - sy’n cynnwys newid yn yr hinsawdd, rhyfel, argyfwng amaethyddol a’r Pla Du - yn gyfnod allweddol yn hanes Ewrop, mae’r naratifau wedi eu dominyddu gan astudiaethau ym maes demograffeg, macro-economeg a dirywiad neu gefnu ar anheddiadau, wedi'u hadeiladu ar gyfrifon rhagorol a manwl iawn sy’n canolbwyntio ar gymunedau penodol. Bydd ENDURE yn manteisio ar botensial dulliau a data archeolegol i greu naratifau perthnasol o'r ffordd y cafodd cymunedau eu siapio gan drawma, boed hynny drwy wydnwch, dyfalbarhad neu drawsnewid."

Wedi’i hariannu gan werth dros 1,950,000+ Ewro, mae’r prosiect Urban Life in a Time of Crisis: Enduring Urban Lifeways in Later Medieval England, yn rhan o’r set ddiweddaraf o’r grantiau atgyfnerthu gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd sy’n cefnogi ymchwilwyr i atgyfnerthu eu hymchwil, waeth beth fo’u cenedligrwydd.

Mae awdur Assemblage Thought and Archaeology, Pottery and Social Life in Medieval and England: Towards a relational approachDr Ben Jervis, sydd hefyd yn ddarllenydd mewn Archaeoleg, yn arbenigo yn archaeoleg Prydain yr Oesoedd Canol ac mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn trefoli. Mae’n defnyddio diwylliant materol i ddeall bywydau bob dydd y rhai nad oedd yn byw bywyd elitaidd yn Lloegr yn ystod yr Oesoedd Canol.

Rhannu’r stori hon