Ewch i’r prif gynnwys

BBT Revisited - adroddiad terfynol nawr ar gael

18 Mawrth 2022

Trainee Doctors

Yn 2021, fe wnaethom gynnal astudiaeth ddilynol gyda chyfranogwyr oedd yn rhan o werthusiad tair blynedd o hyd o raglen BBT, a gwblhawyd yn wreiddiol yn 2017 (Bullock et al 2018, 2017; Muddiman et al 2019, 2016a, 2016b). Casgliadau allweddol yr astudiaeth wreiddiol oedd bod y rhaglen wedi datblygu hyfforddeion sy'n, dod â phersbectif ehangach i ofal iechyd, hyrwyddo integreiddio arbenigedd, mabwysiadu dulliau cyfannol sy'n rhoi gofal sy’n canolbwyntio ar y claf, gallu rheoli cleifion â chyflyrau cymhleth, ac sydd ag argyhoeddiad yn eu dewis o yrfa.  Nod yr astudiaeth ddilynol, a gomisiynwyd gan Health Education England North West, oedd nodi cyrchfannau gyrfa tymor hwy’r meddygon a gymerodd ran a nodi a oedd manteision rhaglen BBT yn rai parhaus o ran eu gyrfa, neu a oedd yr hyfforddeion o dan unrhyw anfantais o ran datblygiad gyrfaol.

Yn gyntaf, cynaliasom gyfweliadau archwilio ag wyth o gyn-hyfforddeion BBT. Y cam nesaf oedd lansio arolwg yn seiliedig ar yr astudiaeth wreiddiol a'r cyfweliadau archwilio. Cawsom 70 o ymatebion gan 118 o gyfranogwyr posibl. Canfuom fod BBT wedi dylanwadu ar eu penderfyniadau gyrfa mewn modd amlwg, ac nad oedd y rhan fwyaf o'r cyfranogwyr yn difaru ymuno â'r rhaglen. Mae BBT yn galluogi cyfranogwyr i, wneud penderfyniadau gyrfa gwybodus, cael profiad ychwanegol mewn arbenigeddau eraill, a datblygu ymagwedd fwy cyfannol at ofal. Roedd rhai cyfranogwyr yn wynebu heriau ar ôl gadael BBT ac ymuno â'u hyfforddiant arbenigol (er enghraifft gorfod dal i fyny â hyfforddiant arbenigol penodol a pheidio â bod yn rhan o garfan o gyfoedion), ond ni chafodd yr anawsterau hyn effaith barhaol ar eu gyrfaoedd. Roedd y cyfranogwyr yn yr astudiaeth hon yn teimlo'n freintiedig o fod wedi profi BBT ac roeddent yn drist nad oedd ar gael mwyach.

Mae’n crynodeb gweithredol ar gael i'w lawrlwytho nawr ac mae'r adroddiad llawn ar gael ar gais.

Rhannu’r stori hon