Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant fferylliaeth aml-sector cyn-cofrestru

18 Mawrth 2022

pharmacist looking at pill bottle

Fis diwethaf, cwblhaodd y tîm CUREMeDE eu gwerthusiad o’r rhaglen hyfforddi fferylliaeth aml-sector cyn-cofrestru 2020/21 ar draws dau Fwrdd Iechyd yng Nghymru.

Mae rhaglenni hyfforddi aml-sector yn cynnig hyfforddiant mewn ysbytai, yn y gymuned ac mewn lleoliad gofal sylfaenol dros 12 mis, i fferyllwyr. Mae hyn yn groes i’r rhaglenni traddodiadol, un sector, mewn lleoliadau ysbyty ac yn y gymuned.

Mae’r tîm wedi bod yn rhan o werthuso sawl rhaglen aml-sector sydd wedi cael eu rhoi ar waith gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) dros y blynyddoedd diwethaf. Mae carfanau gwahanol o hyfforddeion â phrofiadau gwahanol o fodelau hyfforddi, wrth iddynt amrywio yn nhermau amseru, trefnu, a hyd y profiad ar draws y tri sector fferyllol.

Ar ôl cael canlyniadau addawol yn yr astudiaethau gwerthusol blaenorol, mae AaGIC yn bwriadu archwilio’r dichonoldeb o symud i fodel hyfforddi sengl, gyda chwricwlwm pendant. Ar gyfer astudiaeth 2020/21, canolbwyntiodd ein gwerthusiad yn benodol felly ar gryfderau a chyfyngiadau dau fodel hyfforddi gwahanol ac i ba raddau y maent yn hwyluso cyflawniad cwricwlwm y rhaglen.

Mewn un model, cwblhaodd hyfforddeion blociau 2 fis o gylchdroadau ar draws y tri sector yn ystod y chwe mis cyntaf o’u hyfforddiant, ac yna ailymweld â phob sector ar gyfer ail gylchdro 2 fis o hyd yn ail hanner y flwyddyn. Yn y model arall, cwblhaodd hyfforddeion blociau 4 mis o gylchdroadau yn y tri sector, mewn trefn.

Dangosodd ein canlyniadau amrywiaeth barn a phrofiadau gan hyfforddeion a goruchwylwyr rhwng ac o fewn y ddau fodel hyfforddi. Roedd yr amrywiaeth barn hyn o ganlyniad i sawl ffactor: gwahaniaeth ar draws sectorau fferylliaeth a lleoliadau hyfforddi, argaeledd a pharodrwydd goruchwylwyr, a nodweddion yr hyfforddeion eu hunain.

Nid oedd hoffter amlwg i’r naill fodel hyfforddi na’r llall ac mae ein hadroddiad gwerthuso yn cyflwyno’r cyd-destun a’r manylion ynghylch y ffactorau dylanwadol.

Lawrlwytho’r Crynodeb Gweithredol nawr. Mae'r adroddiad llawn ar gael ar gais.

Rhannu’r stori hon