Christopher Williams yn cyflwyno Barmotin: Piano Music, Vol. 2
1 Mawrth 2022
Mae Barmotin: Piano Music, Vol. 2 gan Christopher Williams wedi’i ryddhau.
Mae gweithiau cyhoeddedig Semyon Alexeyevich Barmotin (1877-1939) yn dyddio o gyfnod arbennig llawn datblygiadau yn niwylliant Rwsia cyn y Chwyldro yn 1917.
O ehangder Rhamantaidd ‘Piano Sonata in G-Flat Major, Op. 4’ i ‘Tableaux de la vie enfantine’ sy’n lliwgar ac yn fyfyriol, mae atyniad cerddoriaeth piano Barmotin yn deillio o’i bersonoliaeth artistig fywiog, canlyniad mireinio ei iaith harmonig a’i feistrolaeth ar ffurf.
Mae Christopher Williams yn parhau â'i ailddarganfyddiad clodwiw o gyfansoddwr sy'n galluogi cymeriad emosiynol y gerddoriaeth i ffynnu.
Astudiodd Christopher gerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, lle mae bellach yn addysgu canu'r piano.
Mae’n bianydd staff yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hefyd yn canu piano cerddorfaol a celeste gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, sydd wedi mynd ag ef i arfordir dwyreiniol America.
Ac yntau’n gyfeilydd ac yn unawdydd, mae Christopher yn perfformio ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Philharmonie yn Lwcsembwrg, Conservatoire de Musique yn Avignon, Concertgebouw yn Amsterdam, Neuadd Frenhinol Albert a Wigmore Hall.
Mae Barmotin: Piano Music, Vol. 2 ar gael nawr ar wefan Grand Piano.