Ewch i’r prif gynnwys

Cwrdd â'r ymchwilydd: Dr Olga Eyre

18 Mawrth 2022

books on desk

Mae Cymrawd Ymchwil Clinigol wedi ymuno â Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Mae Dr Olga Eyre yn cynorthwyo i sefydlu ymyrraeth seicolegol ar gyfer atal iselder mewn pobl ifanc a datblygu adnodd ar-lein i helpu pobl ifanc i gyrchu adnoddau iechyd meddwl.

Ymunodd Dr Eyre â Chanolfan Wolfson yn 2021 ar ôl gweithio fel cynorthwyydd ymchwil yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Olga: "Mae diddordeb wedi bod gen i erioed mewn iechyd meddwl. Yn ystod fy hyfforddiant meddygol roeddwn i'n mwynhau seiciatreg, a dewisais gymryd blwyddyn allan i gwblhau gradd ymsang mewn seicoleg.

"Flwyddyn neu ddwy ar ôl graddio o'r ysgol meddygaeth cefais gyfle i weithio fel cynorthwyydd ymchwil ar astudiaeth Rhagfynegiad Cynnar o Iselder Glasoed (EPAD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Helpodd hyn fi i gael profiad ym maes seiciatreg plant a glasoed, yn ogystal â dealltwriaeth o'r broses ymchwil."

Yn dilyn ei gwaith yr astudiaeth EPAD, aeth Dr Eyre ymlaen i ddilyn hyfforddiant mewn seiciatreg glinigol a meithrin diddordeb pellach mewn iechyd meddwl ieuenctid, yn enwedig yn ymwneud ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac iselder.

Ychwanegodd Olga: “Mae cysylltiad hanfodol rhwng gwaith clinigol ac ymchwil gyda'r ddau yn bwydo i’w gilydd. Mae gwaith clinigol yn helpu i gynhyrchu cwestiynau ymchwil pwysig a pherthnasol, ac mae canfyddiadau ymchwil yn helpu i lywio ymarfer clinigol. Roeddwn i'n awyddus iawn i ymwneud â'r ddau, ac mae hyn wedi fy nhywys at yrfa academaidd glinigol mewn seiciatreg plant a glasoed, sy'n cynnwys ymchwilio i iechyd meddwl pobl ifanc. Yn sicr fe lywiodd fy mhrofiad clinigol fy niddordebau ymchwil, ac mae fy mhrofiad ymchwil wedi dylanwadu ar fy ymarfer clinigol."

Mae nifer o elfennau'n perthyn i waith Dr Eyre yng Nghanolfan Wolfson.

Mae dwy brif elfen i fy rôl yng Nghanolfan Wolfson. Yn gyntaf, rwy'n ymwneud â sefydlu treial ar gyfer ymyrraeth seicolegol i atal iselder mewn pobl ifanc. Yn ail, rwyf'n ymwneud â datblygu adnodd ar-lein i ysgolion, i helpu pobl ifanc i gyrchu adnoddau iechyd meddwl sy'n berthnasol iddyn nhw.
Dr Olga Eyre Clinical Research Fellow, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Mae Dr Eyre hefyd yn cyfrannu at brosiectau eraill sydd ar waith yn y Ganolfan ac yn addysgu a goruchwylio myfyrwyr sy'n cynnal ymchwil ym maes iechyd meddwl pobl ifanc. Yn ddiweddar, cyfrannodd adolygiad o'r llenyddiaeth ar iselder glasoed, ac ar anhwylderau niwroddatblygiadol ac iselder, pynciau sydd o ddiddordeb penodol iddi.

Her ar draws ymarfer clinigol yw adnabod pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl a chynnig y gefnogaeth neu'r driniaeth briodol.

Dywedodd Olga: "Dyw cyfran sylweddol o blant a phobl ifanc sy'n profi problemau iechyd meddwl ddim yn cael eu hadnabod, ac felly dydyn nhw ddim yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw. Gan fod problemau iechyd meddwl mewn plentyndod yn cael effaith ar ganlyniadau tymor hirach, mae gan hyn oblygiadau i unigolion a chymdeithas.

"Her allweddol arall yw darparu gwasanaethau iechyd meddwl i'r rheini sydd eu hangen. Er bod ymyrraeth gynnar yn effeithiol i atal anawsterau iechyd meddwl yn ddiweddarach, mae cyllid ac adnoddau'n gyfyngedig. Mae hyn yn golygu yn aml mai pobl ifanc sydd ag anawsterau difrifol â mwy o frys sy'n cael eu blaenoriaethu gan wasanaethau, a chaiff y cyfle i ymyrryd yn gynnar ac atal problemau ei golli.

Yn olaf dywedodd Dr Olga Eyre: "Mae'n gyfnod cyffrous yma yn y Ganolfan gyda'n gwaith yn dechrau o ddifrif. Rwy'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y ganolfan ryngddisgyblaethol a chryfhau'r cysylltiadau rhwng ymarfer clinigol a chanfyddiadau ymchwil."

Rhannu’r stori hon