Ewch i’r prif gynnwys

Lansio partneriaeth strategol newydd rhwng Cynghrair y GW4 a Phorth y Gorllewin

8 Mawrth 2022

Katherine Bennett, Chair of the Western Gateway partnership and Professor Lisa Roberts, Chair of GW4 Council, and Vice-Chancellor and Chief Executive at the University of Exeter.

Cyhoeddwyd partneriaeth strategol newydd rhwng Cynghrair y GW4 a Phorth y Gorllewin heddiw (8 Mawrth), gan gryfhau gweithgareddau ar y cyd a fydd yn sbarduno twf rhanbarthol gwyrdd ac economaidd.

Mae’r ddwy ochr wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth am dair blynedd a fydd yn dod â phrifysgolion y GW4 sef Bryste, Caerdydd, Caerfaddon a Chaerwysg – pedair o’r prifysgolion mwyaf ymchwil-ddwys ac arloesol yn y wlad – ynghyd yn rhan o bartneriaeth hollranbarthol gyntaf y DU.

Mae GW4 yn nodi meysydd o arbenigedd ar y cyd ar draws ei sefydliadau i ddatblygu cymunedau ymchwil ar raddfa sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang a diwydiannol o bwys; mae hyn yn cynnwys sero net, newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd i ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae Porth y Gorllewin yn dod â busnesau, byd academaidd a’r llywodraethau ar ddwy ochr y ffin ynghyd i gydweithio mewn partneriaeth i greu cyfleoedd newydd i’r 4.4 miliwn o bobl sy’n byw o fewn ei ffiniau.

Bydd y bartneriaeth newydd hon yn ymestyn ar draws dwy wlad, gan gydweithio drwy rannu arbenigedd a gwybodaeth i gychwyn prosiectau o fudd cyffredin sy'n anelu at greu ffyniant mewn cymunedau a helpu'r byd i gyflawni economi sy’n rhydd o garbon yn gyflymach.

Dyma a ddywedodd Katherine Bennett, Cadeirydd partneriaeth Porth y Gorllewin: “Dyma gyfle gwych i’n hardal ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd ein prifysgolion penigamp i gydweithio i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n ein hwynebu.

“Rydyn ni eisoes yn cydweithio’n agos ar lawer o brosiectau, megis ein cais i ddod â phrototeip cyntaf y DU ar gyfer safle ymasio ynni i’r ardal, gan ddefnyddio ein sgiliau i ddatgloi’r tanwydd gwyrdd hynod bwysig hwn a chreu ffyniant mewn cymunedau sydd mewn perygl o gael eu gadael ar eu holau ar draws yr undeb. Edrychaf ymlaen at gydweithio ar lawer o brosiectau i hybu potensial ein cymunedau a helpu i ddatgloi mathau newydd o danwydd a thwf yn y DU.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Lisa Roberts, Cadeirydd Cyngor y GW4, ac Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Caerwysg: “Mae cydweithio wrth galon Cynghrair y GW4 ac rwy’n falch iawn ein bod yn gweithio gyda Phorth y Gorllewin ar uchelgais cyffredin ar gyfer ardal De-orllewin Lloegr a Chymru.

“Drwy gyfuno ein profiad a’n gwybodaeth, rydym yn gobeithio creu cymdeithasau cynhwysol, ffyniannus a chynaliadwy tra ein bod yn creu twf economaidd rhanbarthol.”

Cyhoeddwyd y bartneriaeth strategol newydd yn yr uwchgynhadledd gyntaf ar gyfer de Cymru a gorllewin Lloegr, sef Green Growth in the Western Gateway. Bydd arweinwyr busnes a gwleidyddion yn ymgynnull yn y digwyddiad sy'n cael ei gynnal yng Nghasnewydd.

Rhannu’r stori hon