Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad traws-sector llwyddiannus am gefnogi lles mewn ysgolion

15 Chwefror 2022

Pupils walk in school uniform in a corridor

Cynhaliwyd digwyddiad rhithwir a ddenodd nifer da o gyfranogwyr y mis hwn a oedd yn canolbwyntio ar gefnogi lles ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn ysgolion. Fe’i trefnwyd gan Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc a Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc (T4CYP).

Cynhaliwyd y sesiwn ar-lein, Lles mewn Ysgolion: Rhannu dysgu i gefnogi plant a phobl, ifanc, ar 1 Chwefror 2022 ac fe'i cadeiriwyd gan Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, a Carol Shillabeer, pennaeth T4CYP.

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys gwaith yr artist Emma Paxton o Imagistical a dynnodd yn fyw drwy gydol y prynhawn gan droi'r drafodaeth yn boster digidol wedi'i dynnu â llaw o ddelweddau difyr.

Roedd y prynhawn yn cynnwys sgyrsiau academaidd byr am ymyriadau iechyd meddwl mewn ysgolion a systemau ysgolion gan yr Athro Frances Rice a'r Athro Graham Moore, yn ogystal â gwybodaeth gan Dr Elizabeth Gregory ar y Fframwaith Meithrin, Grymuso, Diogel, Ymddiried (NEST) ac enghreifftiau o arfer gorau gan Dr Gemma Burns a Dr James Cording o Dîm Gweithredu Dull Ysgol Gyfan Gwent.

Meddai'r Athro Frances Rice, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: "Roedd yn brynhawn arbennig gydag ymgysylltiad a thrafodaeth draws-sector gwych ar bwnc mor amserol a phwysig: lles plant a phobl ifanc mewn lleoliadau addysg.


"Roedd yr Athro Graham Moore, sy'n cyd-arwain ein hymchwil ar iechyd meddwl mewn ysgolion, a minnau yn falch o gyfrannu canfyddiadau ymchwil ar ran Canolfan Wolfson ac roedd yn wych clywed ymatebion y cyfranogwyr yn ystod sgyrsiau bywiog a rhyngweithiol dilynol."

Screenshot taken from Mentimeter during Wellbeing in Schools event
A screenshot from Mentimeter during the interactive element of the Wellbeing in Schools event.

Dywedodd Dr Elizabeth Gregory o Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc: "Roeddwn yn falch iawn o gyflwyno Fframwaith NEST i’r cyfranogwyr; offeryn cynllunio i helpu gwasanaethau i sicrhau bod iechyd a lles wrth wraidd popeth a wnânt. Roedd hefyd yn wych clywed gan ein cydweithwyr Dr Gemma Burns a Dr James Cording a oedd yn gallu darparu enghreifftiau rhagorol a manwl o'r fframwaith sydd ar waith yn ardal Gwent."

I gloi, dywedodd yr Athro Frances Rice: "Roedd yn bleser mawr cydweithio ar y digwyddiad hwn am bwnc mor bwysig ac edrychwn ymlaen at fwy o ddigwyddiadau partneriaeth yn y dyfodol."

Mae’r recordiad llawn o’r digwyddiad Lles mewn Ysgolion: Rhannu dysgu i gefnogi pobl ifanc bellach ar gael i'wylio ar-lein.

Rhannu’r stori hon