Ewch i’r prif gynnwys

Gwahoddiad i Ddigwyddiad Cyfnewid Gwybodaeth

1 Chwefror 2022

Man giving thumbs up to another man on a computer conference call
Photo by Vanessa Garcia from Pexels

Ydych chi’n gweithio mewn meddygfa deuluol yng Nghymru? A hoffech chi ddweud eich dweud am sut mae’r dirwedd gofal sylfaenol yn datblygu yng Nghymru?

Mae CUREMeDE ac AaGIC yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyfnewid gwybodaeth sy’n archwilio’r cymysgedd o sgiliau gofal sylfaenol yng Nghymru a lle fferyllwyr mewn meddygfeydd practis cyffredinol.

Rydym yn awyddus i glywed barn amrywiaeth o staff meddygfeydd teuluol, gan gynnwys staff clinigol a gweinyddol, y rhai sydd eisoes yn gweithio gyda fferyllydd mewn meddygfa deuluol, a'r rhai nad ydynt yn gwneud hynny.

Bydd hwn yn gyfle i ddod ynghyd â chydweithwyr i drafod mater sy'n berthnasol iawn i'r dirwedd gofal iechyd newidiol. Bydd trafodaethau yn llywio datblygiad deunyddiau a fydd ar gael i dimau meddygfeydd teuluol a fferyllwyr ledled Cymru.

Cynhelir y digwyddiadau yn y Saesneg drwy Microsoft Teams:

Ar gyfer meddygfeydd heb fferyllydd:

Dydd Mawrth 22 Mawrth

Dydd Iau 24 Mawrth

Dydd Mawrth 29 Mawrth

Dydd Iau 31 Mawrth

amser cinio (12:00 – 13:00)

gyda'r nos (19:00 - 20:00)

Ar gyfer meddygfeydd sydd â fferyllydd:

Dydd Mawrth 5 Ebrill

Dydd Iau 7 Ebrill

Dydd Mawrth 12 Ebrill

Dydd Iau 14 Ebrill

amser cinio (12:00 – 13:00)

gyda'r nos (19:00 - 20:00)

Mae Timau Meddygfeydd Teuluol sydd heb Fferyllydd Meddygfa Deuluol ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • timau sydd ond yn gweithio gyda fferyllwyr cymunedol neu fferyllwyr ysbyty
  • timau sydd â meddygon dosbarthu
  • timau sydd wedi ymestyn cymysgedd eu sgiliau ond nid drwy fferyllwyr
  • timau sy'n cynnwys technegwyr fferyllol ond nid fferyllwyr

Mae Timau Meddygfeydd Teuluol sydd â Fferyllydd Meddygfa Deuluol yn cynnwys timau sydd â Fferyllwyr:

  • a gyflogir gan y feddygfa
  • a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd
  • sy’n gweithio'n llawn amser neu lai na llawn amser yn eich meddygfa

I gael rhagor o wybodaeth a chofrestru, cysylltwch â Sophie Bartlett.

Rhannu’r stori hon