Ewch i’r prif gynnwys

Porth Cymunedol yn ail-lansio’r Panel Cynghori Ysgolion

21 Ionawr 2022

Schools' Advisory Panel
Schools' Advisory Panel

Ddydd Mawrth, 18 Ionawr, ail-lansiwyd y Panel Cynghori Ysgolion (SAP) gan y Porth Cymunedol. Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhafiliwn Grange.

Gwahoddwyd staff o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, a cholegau lleol, i'r digwyddiad, gyda chynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Grangetown, Ysgol Gynradd Parc Ninian, St Paul’s Primary School, Ysgol Uwchradd Fitzalan a Choleg Caerdydd a'r Fro yn bresennol.

Cafwyd sawl cyflwyniad gan staff Prifysgol Caerdydd oedd yn amlygu’r prosiectau ymgysylltu a gynhelir gan Ysgolion academaidd gan gynnwys Cemeg, Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd, ac Ieithoedd Tramor Modern. Siaradodd yr Athro Helena Gaunt, Pennaeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a'i chydweithiwr Kevin Price (Pennaeth Perfformio Cerddoriaeth), am eu cynlluniau ymgysylltu â'r gymuned. Fe wnaethon nhw hefyd drafod eu cynlluniau ar gyfer yr Hen Lyfrgell yng Nghanol y Ddinas, gan gynnwys sicrhau prydles 99 mlynedd o hyd arni yn ddiweddar. Ymunodd The Brilliant Club hefyd yn rhithiol, i siarad am eu cydweithrediad ‘Llais y Rhiant’ (Parent Power) gyda thîm Ehangu Cyfranogiad Prifysgol Caerdydd. Cydweithrediad yw hwn sydd yno i gefnogi a grymuso rhieni yn y gymuned drwy gynnig cyfleoedd i ddatblygu sgiliau trefnu cymunedol, a chyngor ac arweiniad ar gael mynediad at addysg uwch, er mwyn cefnogi dyfodol eu plant.

Yn dilyn y cyflwyniadau, roedd gweddill y sesiwn yn drafodaeth agored a roddodd y cyfle i staff ac athrawon wneud cysylltiadau â'r prosiectau a fyddai o ddiddordeb i bob ysgol. Darparwyd taith dywys o amgylch y Pafiliwn i'r rhai a oedd yn bresennol gan roi cyfle iddynt weld y mannau sydd ar gael i'w llogi.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Panel Cynghori Ysgolion ddydd Mawrth, 10 Mai, ym Mhafiliwn Grange.

Rhannu’r stori hon