Ewch i’r prif gynnwys

Dosbarth Meistr ar Grwpiau Ffocws

10 Ionawr 2022

Group of people having a meeting
Photo by Christina Morillo from Pexels

Yn ogystal ag ymchwil a gwerthuso, mae tîm CUREMeDE hefyd yn ymwneud ag addysgu a goruchwylio.

Ym mis Tachwedd 2021, cynhaliodd Dorottya Cserzo ddosbarth meistr ar grwpiau ffocws ar gyfer myfyrwyr meistr yn SOCSI gan gymryd y modiwl dulliau ymchwil Ansoddol. Roedd y dosbarth meistr yn cynnwys darlith fideo awr o hyd ac wedyn weithdy rhyngweithiol awr o hyd. Bu Dorottya yn trin a thrafod hanfodion, cryfderau, cyfyngiadau, heriau a moeseg defnyddio grwpiau ffocws ym maes ymchwil gwyddorau cymdeithasol. Gan ddefnyddio ei harbenigedd ym maes cyfathrebu ar-lein a'i phrofiadau diweddar o redeg grwpiau ffocws, bu Dorottya yn trafod y gwahaniaethau rhwng grwpiau ffocws wyneb yn wyneb a rhai ar-lein.

Roedd y myfyrwyr yn ymddiddori'n fawr ac roedd ganddyn nhw lawer o syniadau a chwestiynau am gynnal grwpiau ffocws. Mae sesiwn debyg wedi'i chynllunio ar gyfer Chwefror 2022 ar bwnc cyfweliadau ymchwil ar gyfer myfyrwyr ar yr Msc mewn Addysg Feddygol.

Rhannu’r stori hon