Ewch i’r prif gynnwys

Academi Dyfodol Cydweithredol: Oedi, Myfyrio, Ymgysylltu!

17 Rhagfyr 2021

Aerial shot of a group of people working at a desk

Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caergrawnt, Ysgol Berlin a Welcoming Science. Rhoddwyd cyfle i ymchwilwyr ddod ynghyd a chanolbwyntio ar feithrin capasiti a gallu. Roedd y gynhadledd rithwir wythnos o hyd yn cynnwys mannau rhwydweithio cyfrinachol i ymchwilwyr gynllunio, ymarfer a myfyrio. Roedd gan bob diwrnod thema benodol, dan arweiniad y siaradwyr ochr yn ochr â gweithdai a grwpiau trafod.

Yn ystod yr academi, buom yn meddwl am bŵer a braint, cydweithio ar draws diwylliannau, ffiniau a chymunedau, i wella sgiliau cyfathrebu, i ddelio â chynnwys heriol, ac i ystyried meysydd sy’n tyfu; ymgysylltu digidol, diogelwch data a hunaniaeth seiber.

Roedd yn wythnos oedd yn llawn cynnwys diddorol ac ysbrydoledig gyda safbwyntiau amrywiol. Dysgais lawer am gyfathrebu a phwysigrwydd cydweithio i ddatblygu syniadau yn ogystal â pha mor heriol ond pwysig yw ymgysylltu â'r cyhoedd ynghylch materion dadleuol.  Fe wnaeth yr academi rithwir ganiatáu i ni wrando ar safbwyntiau, syniadau a phryderon gwahanol ac ymgysylltu â nhw. Dysgais sut y gall trafodaeth ddod â manteision hirdymor gwirioneddol i ymchwil a'i heffaith ar gymdeithas.

Byddwn yn argymell y dosbarth meistr wythnos o hyd hwn i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa i ddatblygu eu sgiliau, archwilio syniadau creadigol ar gyfer ymgysylltu, dysgu gan arbenigwyr a chysylltu'n ddigidol â chydweithwyr o bob cwr o'r byd.

Rhannu’r stori hon