Ewch i’r prif gynnwys

Llyfr newydd ‘Educators of Healthcare Professionals: Agreeing a Shared Purpose’ ar gael nawr

26 Tachwedd 2021

Mae ‘Educators of Healthcare Professionals: Agreeing a Shared Purpose’, sydd ar gael nawr, yn trafod ein Hastudiaeth o Werthoedd a Gweithgareddau Addysgwyr Gofal Iechyd, a geisiodd bennu’r gwerthoedd a rennir a’r gweithgareddau allweddol a gyflawnir gan bob addysgwr gofal iechyd.

Nodwyd naw o werthoedd canolog a 24 o weithgareddau yn rhan o broses ymchwil pum cam y gwnaeth cannoedd o weithwyr o fwy na 20 o broffesiynau gofal iechyd gymryd rhan ynddi. Cafodd amrywiaeth o ddulliau eu defnyddio i ddod i gonsensws eang a chlir, a oedd yn dangos yn bendant bod addysgwyr gofal iechyd yn arddel set gref o werthoedd ynghylch pwysigrwydd addysg gofal iechyd proffesiynol i ddiogelu rhagoriaeth mewn ymarfer clinigol ac ym maes gofal cleifion, nawr ac yn y dyfodol. Er bod pob proffesiwn yn datblygu ei fyfyrwyr, ei hyfforddeion a'i ymarferwyr yn ei ffordd ei hun, mae gwaith sylfaenol yr addysgwr gofal iechyd yn debyg ar y cyfan, ni waeth beth fo'i arbenigedd clinigol neu ei broffesiwn. Mae'r wybodaeth newydd hon yn sylfaen academaidd gadarn i ymarfer amlbroffesiynol a rhyngbroffesiynol mewn addysg gofal iechyd. Mae hefyd yn taflu goleuni newydd ar ddyfodol addysg gofal iechyd ac addysgwyr gofal iechyd.

Lawrlwythwch y llyfr nawr.

Bydd y llyfr hwn o ddiddordeb i bob uwch addysgwr, comisiynydd addysg a rheolwr, addysgwyr eraill sydd am wella eu harfer addysgol neu ddatblygu eu gyrfaoedd ymhellach ac ystod eang o fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn ymarfer ac arferion addysgol. Mae'r cynnwys nid yn unig yn berthnasol i'r Deyrnas Unedig ond bydd o werth i lawer o'r rhai sy'n ymwneud â datblygu modelau addysg rhyngbroffesiynol sy'n seiliedig ar ansawdd ledled y byd.

Malcolm Smith Deon Deintyddol Ôl-raddedig, Addysg Iechyd Gogledd Ddwyrain Lloegr

Rhannu’r stori hon