Ewch i’r prif gynnwys

Modelwyr mathemategol o Brifysgol Caerdydd yn ennill gwobr ‘Effaith’

22 Tachwedd 2021

Mae prosiect gan Brifysgol Caerdydd sydd wedi helpu’r GIG i leihau costau, lleihau nifer y derbyniadau i’r ysbyty i raddau sylweddol ac, yn y pen draw, achub bywydau wedi ennill gwobr arbennig, Medal Effaith Lyn Thomas ar gyfer 2021, a hynny gan The Operational Research Society.

Rhoddwyd y wobr i’r Grŵp Ymchwil Weithredol yn Ysgol Mathemateg y Brifysgol er mwyn cydnabod ei waith arloesol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Yn rhan o’r gwaith hwn, cafodd modelau mathemategol eu defnyddio i symleiddio prosesau a oedd yn amrywio o rai ar gyfer rhagweld galw i rai ar gyfer amserlennu llawdriniaeth.

Mae'r Grŵp Ymchwil Weithredol, dan arweiniad yr Athro Paul Harper, wedi gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ers dros saith mlynedd.

O dan gynllun 'ymchwilwyr preswyl', mae aelodau o’r staff, myfyrwyr PhD a myfyrwyr ôl-ddoethurol wedi treulio amser yn Adran Gwelliant Parhaus yr ysbyty, lle maent wedi gallu siarad yn uniongyrchol â chynllunwyr ariannol, uwch reolwyr a chlinigwyr.

Hyd heddiw, mae’r Grŵp Ymchwil Weithredol wedi cwblhau dros 150 o brosiectau, ac mae ei waith wedi arwain at arbed o leiaf £12.1m mewn costau.

Ymhlith y prosiectau mae dylanwadu ar ddyluniad ysbyty newydd, a arweiniodd at arbed £900,000 y flwyddyn yn fwy na’r hynny y byddai’r dyluniad gwreiddiol wedi’i arbed, a hynny drwy wneud amserlenni ystafelloedd llawdriniaeth yn fwy effeithlon. Hefyd, gwnaeth cynllunio sut i ddarparu’r gwasanaeth er mwyn cefnogi timau allgymorth iechyd meddwl arwain at leihau nifer y derbyniadau osgoadwy i’r ysbyty 79%, gan gynnwys lleihau amser cleifion i ffwrdd o’r gwaith oherwydd iechyd meddwl difrifol 65%.

Roedd y grŵp hefyd yn rhan o’r gwaith o gynllunio a lansio gwasanaeth GIG 111 Cymru, Llwybr Canser Sengl Cymru Gyfan a’r canolfannau diagnostig cyflym, yn ogystal â chynghori Llywodraeth Cymru ar yr ymateb i COVID-19 o ran monitro galw cychwynnol a chapasiti, cynllunio’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu a helpu i lansio’r rhaglen frechu.

Mae sefydliadau o bob maint yn defnyddio ymchwil weithredol i’w helpu i wneud penderfyniadau strategol, tactegol a gweithredol.

Fe'i defnyddir i fynd i'r afael â phroblemau sy'n aml yn anodd ac yn gymhleth. Mae dadansoddeg uwch, modelu, gwaith strwythuro problemau, efelychu, optimeiddio a gwyddor data’n chwarae rhan mewn ymchwil o’r fath i nodi’r ateb gorau i’r broblem a’r camau gorau i’w cymryd.

Mae Medal Effaith Lyn Thomas yn cael ei rhoi bob blwyddyn ar gyfer ymchwil weithredol academaidd sy’n dangos effaith newydd ac effaith go iawn ar y byd orau ac sydd wedi’i hategu gan dystiolaeth.

Wrth sôn am y wobr, dywedodd yr Athro Paul Harper, o'r Ysgol Mathemateg: "Anrhydedd a rhywbeth hyfryd yw cael y wobr hon, sy’n cydnabod gwaith caled ac ymrwymiad cydweithwyr yn y Brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

"Dros y saith mlynedd diwethaf, rydym wedi dangos y gall ymchwil weithredol wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gwasanaethau gofal iechyd a chael effaith ystyrlon ar fywydau. Mae uwch reolwyr a chlinigwyr yn sylweddoli ei gwerth ac, oherwydd hynny, mae ein technegau modelu bellach yn rhan annatod o’r gwaith o gynllunio a darparu eu gwasanaethau.”

Dywedodd yr Athro Rudolf Allemann, Rhag Is-Ganghellor, Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr a Phennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Hoffwn longyfarch y Grŵp Ymchwil Weithredol ar y cyflawniad gwych hwn.

"Mae’r bartneriaeth y mae wedi’i meithrin â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi mynd o nerth i nerth, ac mae bellach yn sicrhau canlyniadau sy’n cael effaith sylweddol a pharhaol ar ein systemau gofal iechyd ac yn achub bywydau.”

Rhannu’r stori hon