Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil newydd yn datgelu agweddau at farwolaeth a marw yn y DU

2 Tachwedd 2021

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn credu ei bod yn bwysig cynllunio dewisiadau gofal cyn marw ond ychydig iawn sydd wedi cymryd camau yn ei gylch, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie Prifysgol Caerdydd.

Dadansoddodd ymchwilwyr ddata arolygon gan 8,077 o oedolion ledled y DU i ddeall agwedd pobl at farwolaeth a marw, gan gynnwys yr hyn y mae pobl yn ei ddeall o ran gofal lliniarol a gofal diwedd oes, yn ogystal a pha mor barod y mae pobl i drafod eu cynlluniau.

Roedd bron 90% o'r ymatebwyr yn cytuno bod cynllunio ar gyfer diwedd oes yn hanfodol, ond dim ond 14% o’r bobl oedd wedi gwneud hynny'n ffurfiol. Cyhoeddir canfyddiadau'r astudiaeth mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Dyma a ddywedodd y Prif Ymchwilydd, yr Athro Annmarie Nelson, Cyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Mae'r ymatebion yn awgrymu bod ein cymdeithas yn bell ohoni o ran trafod diwedd oes yn effeithiol a chynllunio ar ei gyfer, ac er ein bod yn fodlon cael y sgyrsiau hyn, nid oes gennym y math o iaith, ac yn aml nid ydym yn rhoi ein bwriad i gynllunio ar waith."

Ar ben hyn. dangosodd yr astudiaeth y canlynol:

  • Mae saith o bob 10 o bobl yn credu y dylai eu dewisiadau o ran marwolaeth a marw gael blaenoriaeth dros ddymuniadau eu perthynas agosaf neu gyngor eu meddyg;
  • Dim ond 20% o bobl sydd wedi gwneud trefniadau ariannol ar gyfer eu hangladd a dim ond 40% sydd wedi siarad â rhywun ynghylch a ydyn nhw eisiau i'w corff gael ei gladdu, ei amlosgi neu a ddylai eu horganau gael eu rhoddi;
  • Nid oedd tua 60% o bobl yn cytuno ynghylch a oes gwasanaethau digonol ar gael neu nid oedden nhw’n gwybod a ydyn nhw ar gael;
  • Mae'r rhan fwyaf o bobl (77%) yn credu y dylid rhoi'r un flaenoriaeth i ofal diwedd oes yn y GIG â’r gofal i bobl mewn unrhyw gyfnod arall o fywyd.

Dyma’r hyn a ddywedodd yr Athro Nelson: "Fe wnaethon ni ofyn cwestiynau i bobl am yr hyn maen nhw'n ei ddeall am ofal lliniarol a gofal diwedd oes, eu parodrwydd i siarad am eu cynlluniau, eu hofnau, a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw yn ystod blynyddoedd a dyddiau olaf bywyd. Mae bwlch enfawr rhwng nifer y bobl sy'n dweud eu bod yn teimlo'n gyfforddus yn siarad am farwolaeth a marw, a'r sawl sydd wedi gwneud hynny mewn gwirionedd."

Dywedodd Marie Curie fod y DU wedi cyrraedd adeg dyngedfennol o ran gwella gofal lliniarol a gofal diwedd oes ac mae'r elusen yn galw am ddiwygiadau sylweddol, gan gynnwys rhoi'r un flaenoriaeth i ofal diwedd oes.

Dyma a ddywedodd Prif Weithredwr Marie Curie, Matthew Reed: "Mae'r ffordd rydyn ni’n trin pobl yng ngham olaf eu bywyd yn arwydd sylfaenol o gymdeithas wâr. Mae pob diwrnod sy'n mynd heibio heb wneud diwygiadau yn golygu bod pobl yn byw ac yn marw heb y gofal a'r gefnogaeth y mae eu hangen arnyn nhw, a heb neb i wrando ar eu llais."

Bu farw Simon, sef gŵr Sarah Candlish, 47, yn ogystal â’i mam Ethel yn ystod ton gyntaf y pandemig. Aeth ei mam i’r ysbyty yn dioddef o Covid-19 a bu farw ar ei phen ei hun yno. Profiad arall oedd gan ei phartner, Simon, a oedd â cham tri o ganser y bledren, a bu farw gartref gyda chymorth nyrsys Marie Curie a Sarah wrth ei ochr.

"Mae gofal cleifion yn golygu’r union beth hwnnw, sef gofalu am glaf yn yr un modd, ni waeth ym mha gam o fywyd mae’r claf ynddo, a dylai gwasanaethau lliniarol gael eu hariannu yn yr un modd ag unrhyw wasanaeth arall er mwyn sicrhau bod gan bob un ohonon ni’r hawl i ofal a chymorth personol o safon uchel," meddai Sarah.

Dywedodd yr Athro Nelson fod angen rhagor o ymchwil i ddeall blaenoriaethau cleifion a theuluoedd yn well er mwyn diwallu anghenion go iawn pobl.

"Daeth arbenigedd meddygol gofal lliniarol i'r amlwg yn ystod y pandemig, gan arwain y ffordd yn aml o ran cefnogi cleifion a theuluoedd – a staff gofal iechyd dibrofiad – yn ystod argyfwng COVID-19, o leiaf yn y safleoedd hynny lle roedd timau arbenigol. Roedd lleoliadau gofal lliniarol arbenigol yn cael eu rheoli yn y ffordd orau bosibl gan fod llai o gyfarpar diogelu," meddai.

"Dylai'r dystiolaeth sy’n deillio o'r arolwg hwn, sy'n nodi'n glir yr angen i ystyried gofal lliniarol a gofal diwedd oes yn ffactor bwysig ym maes iechyd cyhoeddus, yn ogystal â’r profiad yn ddiweddar o ba mor effeithiol yw’r arbenigedd, dynnu sylw at yr angen am ragor o gyllid ar gyfer gwasanaethau ac ymchwil."

Adolygodd pwyllgor moeseg yr Ysgol Meddygaeth yr astudiaeth a dadansoddodd Canolfan Marie Curie yr ymatebion i’r ymchwil gyda chefnogaeth bellach gan Ganolfan Ymchwil PRIME (Gofal Sylfaenol a Gofal Brys) ym Mhrifysgol Caerdydd. Trosglwyddwyd data Gogledd Iwerddon i Brifysgol Queens yn Belfast i'w ddadansoddi.

Rhannu’r stori hon