Ewch i’r prif gynnwys

Math gwahanol o fywyd academaidd

1 Tachwedd 2021

Induction talks 2021 by Cardiff Confucius Instiute

Er mwyn helpu myfyrwyr o Tsieina i ymgartrefu yn eu bywydau newydd yng Nghaerdydd, cynhaliodd Sefydliad Confucius nifer o sgyrsiau ar y gwahaniaethau diwylliannol ac academaidd ym maes addysg.

Amcan y cyflwyniadau, gan y Cyfarwyddwr Academaidd, yr Athro Lin Lifang, oedd rhoi gwell syniad i'r myfyrwyr o sut beth yw astudio yn y DU o'i gymharu â Tsieina. Roedd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar ddulliau addysgu a’r gwahaniaethau diwylliannol allweddol rhwng y ddwy system addysg gan gynnwys meysydd megis graddau, ymgysylltu, iechyd meddwl, mathau o ddysgu a mathau o gyfathrebu.

Cynhaliwyd y sgyrsiau ar ddechrau’r semester cyntaf, a daeth 902 o lasfyfyrwyr o Tsieina yn yr Ysgolion Busnes, y Gwyddorau Cymdeithasol ac Ieithoedd Modern i wrando arnyn nhw.

Yn sgîl y cyfarfodydd â myfyrwyr newydd y Brifysgol o Tsieina, crëwyd hefyd grŵp WeChat ar gyfer y rheiny sydd â thalentau arbennig megis caligraffi, Tai Chi neu chwarae offerynnau Tsieinïaidd traddodiadol. Gwyliwch y gofod hwn ar gyfer sesiynau cydweithio â'r bobl hynod fedrus hyn yn nes ymlaen yn y flwyddyn!

Rhannu’r stori hon