Ewch i’r prif gynnwys

Proffesiynoldeb ym maes Deintyddiaeth: Beth am fod yn gadarnhaol

20 Hydref 2021

Photo by Cedric Fauntleroy from Pexels

Dros yr Haf, bu aelodau o dîm CUREMeDE yn rhan o gynhadledd Cymdeithas Addysg Ddeintyddol Ewrop (ADEE) 2021. Roedd Alison Bullock, Dorottya Cserzo, Emma Barnes a Sophie Bartlett o CUREMeDE yn hwyluswyr allweddol mewn Grŵp Diddordeb Arbennig o dan y teitl: Proffesiynoldeb mewn Deintyddiaeth: Beth am fod yn gadarnhaol.

Croesawodd y Grŵp Diddordeb Arbennig weithwyr deintyddol proffesiynol a rhanddeiliaid o bob rhan o Ewrop. Cyflwynwyd y rhai a oedd yn bresennol i ganfyddiadau o ymchwil ddiweddar ar broffesiynoldeb ym maes deintyddiaeth o farn gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd. Wedi'i ariannu gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), cynhaliwyd yr ymchwil hon fel cydweithrediad rhwng CUREMeDE, Ysgol Deintyddiaeth Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Athens ac ADEE. Lawrlwythwch yr adroddiad llawn.

Ar ôl trosolwg o ganfyddiadau'r ymchwil, rhannodd y grŵp yn ystafelloedd llai i drafod pedair agwedd allweddol ar broffesiynoldeb:

  1. A yw disgwyliadau proffesiynoldeb yn wahanol?
    1. Ar gyfer gwahanol aelodau o'r tîm deintyddol?
    2. Ar gyfer deintyddiaeth o'i gymharu â phroffesiynau eraill?
  2. Beth yn eich barn chi yw'r materion a'r heriau sy'n dod i'r amlwg?
  3. Sut ydych chi'n addysgu israddedigion am broffesiynoldeb?
    1. Sut mae'r myfyrwyr yn dangos tystiolaeth o'u dysgu am broffesiynoldeb?
  4. Sut y gallwn gefnogi/mentora gweithwyr proffesiynol i ddysgu o'r bylchau a symud ymlaen?

Mae cofnod o'r digwyddiad a rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Grŵp Diddordeb Arbennig ADEE 2021.

Rhannu’r stori hon