Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Podlediadau "Glasbrintiau’r Dyfodol" (Blueprints for Tomorrow)

13 Hydref 2021

Photo by Magda Ehlers from Pexels

Ymchwilydd doethurol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol yw Simon Johns. Mewn cydweithrediad ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, mae wedi creu cyfres o 30 podlediad o’r enw "Glasbrintiau’r Dyfodol". Mae'r gyfres yn casglu syniadau meddylwyr rhyngwladol blaenllaw er mwyn cyd-greu agenda ymchwil ar gyfer lleoedd dysgu gydol oes ym myd addysg uwch (AU), a goleuo ffyrdd newydd o ddylunio a rheoli lleoedd AU.

Mae cyrraedd y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol yn creu cyfle heb ei ail i ailystyried lleoedd dysgu AU addysg uwch mewn ffordd systematig.  Roedd Simon yn awyddus i gymryd rhan a gwnaeth gais a chael cyfweliad.  Mae ganddo lawer o brofiad ac mae'n angerddol am ddefnyddio cyfrwng podlediadau i drosglwyddo gwybodaeth i wella’r drafodaeth ynghylch lleoedd dysgu, lles a pham mae angen lleoedd dysgu yn ystod y cyfnod cyfnewidiol hwn.

Gallwch chi wrando ar y gyfres ar Spotify neu arwefan y prosiect.

Rhannu’r stori hon