Ewch i’r prif gynnwys

New 'Planetary Health' Research Network to launch January 2022

20 Medi 2021

Planetary Health URN

Yn unol â'r cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Sefydliadau Arloesedd newydd y Brifysgol, mae cais Dr Sara MacBride-Stewart i sefydlu Rhwydwaith Ymchwil Iechyd y Blaned (PHRN) yn un o bum Rhwydwaith Ymchwil Prifysgol a gymeradwywyd gan Brifysgol Caerdydd a bydd yn lansio'n swyddogol ym mis Ionawr 2022.

Ffocws cysyniad Iechyd y Blaned yw cyflawni safon gyraeddadwy a chynaliadwy o iechyd dynol ac nad yw'n ddynol,  fel y'i dyfeisiwyd gan sefydliadau Rockefeller (UDA) a Lancet (DU) - maes yr oedd y panel o aseswyr yn teimlo oedd yn cynnig '[...] gwir botensial i adeiladu cydweithio ac ymgysylltu rhyngddisgyblaethol ar draws y Brifysgol.'

Mae gan Gaerdydd gynrychiolaeth gref o ran dealltwriaeth o iechyd y blaned mewn sawl maes; o ailgreadau amgylcheddol, i fapio'r cefnfor a newidiadau mewn hela/ffermio,  archwilio systemau cynaliadwy ar gyfer bwyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Yr hyn y bydd ymchwilwyr yn ei sicrhau drwy'r Rhwydwaith newydd yw lle i ddychmygu, credu a chynhyrchu'r cyfleoedd hyn; gyda chefnogaeth y gronfa ryngddisgyblaethol a'r potensial i gydweithio ar gynigion am gyllid ymchwil allanol.

Bydd y Rhwydwaith yn pwysleisio datrysiadau rhyngddisgyblaethol; gan ganolbwyntio ar sicrhau bod tueddiadau poblogaeth a chymuned o ran gwella iechyd yn cael eu cynnal yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd a dirywiad natur. Yn ogystal, bydd cyswllt parhaus ag ymchwil sydd eisoes ar waith ym Mhrifysgol Caerdydd (h.y. Pharmabees, Treftadaeth Gynaliadwy), sy'n gweithio'n agos gyda chymunedau lleol i ddod o hyd i ddatrysiadau sy'n gweithio dros natur a gyda natur, yn gadael i'r Rhwydwaith archwilio enghreifftiau o arfer gorau yn y prosiectau hyn er mwyn mentora cydweithrediadau newydd creadigol, meddylgar yn y brifysgol.

Cyn y lansiad swyddogol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, bydd y Rhwydwaith yn cynnal digwyddiad ar 19 Tachwedd 2021 - ceir rhagor o wybodaeth isod.

Cyflwyno Rhwydwaith Ymchwil y Brifysgol i Iechyd y Blaned

Ymunwch â ni am hanner diwrnod o sgyrsiau gan ymchwilwyr academaidd a'r cyfle i rwydweithio mewn trafodaethau grŵp ym mis Medi.

Yn y digwyddiad rydym ni'n awyddus i drafod cysyniadau a syniadau ar draws disgyblaethau; ffocws ein hagenda ymchwil cyffredin yw adeiladu datrysiadau sy'n hybu iechyd a lles dynol, a'n cydfodolaeth gyda phlanhigion, anifeiliaid a bywyd arall ar y blaned yn fwy eang.

Pryd: 12-5pm, dydd Gwener 19eg Tachwedd 2021

Ble: Ystafell 0.13, Prifysgol Prif AdeiladCardiff, Caerdydd, Cymru, CF10 3AT

I gadw lle a derbyn diweddariadau ar siaradwyr gwadd, archebwch le am ddim nawr: www.eventbrite.co.uk/e/170022412613

Event PH URN

Upcoming Event:

Planetary Health: Transformative thinking to address health challenges
Join us for a half-day of talks from academic researchers and the chance to network in breakout-room discussions this September.
At this event we are eager to explore concepts and ideas across disciplines; our shared research agenda is focussed towards building solutions that promote human health and wellbeing, and our co-existence with other plants, animals and planetary life more widely.

  • When: 12:30-4pm, Friday 19th November 2021
  • Where: Room 0.13, Cardiff University Main Building, Park Place, CF10 3AT
  • To reserve a free place and receive updates on guest speakers and the webinar link, Head to our Eventbrite page and register now

Rhannu’r stori hon