Ewch i’r prif gynnwys

Introducing a New Research Project: “Exploring opportunities for farmers in Wales to produce foods for future markets”

27 Medi 2021

New Cardiff Research Project

Mae newidiadau i gymorthdaliadau, masnach ryngwladol, dewisiadau defnyddwyr, a'r hinsawdd wedi creu sawl her i ffermwyr modern Cymru - gan annog ymchwilwyr Caerdydd i lansio prosiect ymchwil newydd

Bydd y gwaith hwn, a ariennir trwy Gynllun Grantiau Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig, yn canolbwyntio ar gasglu pryderon a barn ffermwyr tuag at arallgyfeirio eu cynhyrchiad a'r disgwyliad o fodloni gofynion am fwy o fwyd sy’n seiliedig ar blanhigion a dyfir yn y DU.

Bydd yr ymchwil hon yn helpu i sicrhau bod llunwyr polisïau a rhanddeiliaid yn clywed yn uniongyrchol gan ffermwyr ar y ffordd orau i'w cefnogi wrth i'r diwydiant amaethyddol godi i ymateb i ofynion newydd a chynyddol.

I gyflawni'r gwaith pwysig hwn, mae ymchwilwyr wedi dyfeisio pedwar amcan allweddol:

  1. Arolwg:

    Er mwyn ymchwilio i bryderon cyfredol, mae arolwg ar-lein wedi'i agor i bob ffermwr yng Nghymru, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

  2. Cyfweliadau:

    Bydd ein hymchwilwyr yn cyfweld â ffermwyr sydd wedi'u nodi am eu harloesedd ac sydd eisoes wedi dechrau amrywiaethu cynhyrchiant trwy gyflwyno cynhyrchu ar sail planhigion i'w ffermydd. Bydd cyfranogwyr yr arolwg hefyd yn cael y dewis i gael eu cyfweld, gan roi cyfle gwych i glywed mwy am ffermydd penodol a phrofiad a barn Ffermwyr.

  3. Gweithdai:

    Gwahoddir ffermwyr ac arloeswyr amaethyddol i gysylltu â’r rhwydwaith trwy gyfres o drafodaethau ar-lein (yn Saesneg a Chymraeg), lle gellir rhannu syniadau a barn ymarferol.

  4. Rhannu’r canfyddiadau â Rhanddeiliaid

Bydd canfyddiadau'r ymchwil hon yn cael eu rhannu â rhanddeiliaid perthnasol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau, gan lywio polisi'r dyfodol fel bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi i Ffermwyr sy'n dymuno amrywiaethu.

Unrhyw gwestiynau neu sylwadau? Cysylltwch â: Dr. Hannah Pitt

Rhannu’r stori hon