Ewch i’r prif gynnwys

Digwyddiad lansio ar-lein ar gyfer Canolfan Wolfson

30 Medi 2021

A diverse group of young people sit on steps viewing a laptop

Mae Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal gweminar ar-lein i nodi ei hagoriad ac i gyflwyno'r ganolfan ymchwil yn swyddogol i'r byd.

Bydd y weminar, Dyma Ganolfan Wolfson, yn gyfle i ddysgu mwy am y ganolfan ymchwil gyntaf o'i bath yn y DU sy'n canolbwyntio ar wella iechyd meddwl pobl ifanc ac sydd wedi'i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir gan yr Athro Jeremy Hall, yn cynnwys fideos gan academyddion y Ganolfan, cyllidwyr yn Sefydliad Wolfson, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl yn Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle AS, a negeseuon gan gydweithwyr rhyngwladol a phobl ifanc eu hunain. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys darlith gan yr Athro Anita Thapar o'r enw 'Iechyd meddwl pobl ifanc yn yr 21ain ganrif'.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson, yr Athro Frances Rice: "Rydym yn gyffrous iawn i wahodd pobl i ddysgu mwy am y Ganolfan a chyflwyno Canolfan Wolfson i'n cydweithwyr, ein ffrindiau, ein cefnogwyr a'r cyhoedd o bob cwr o'r byd. Rydym wrth ein boddau bod dros 150 o bobl eisoes wedi cofrestru i ymuno â ni ar gyfer yr hyn a fydd, gobeithio, yn brynhawn addysgiadol a diddorol o sgyrsiau, fideos a darlith academaidd gan arweinydd ffrwd waith geneteg y Ganolfan, yr Athro Anita Thapar."

Mae Dr Ranj Singh, pediatregydd gyda’r GIG a chyflwynydd teledu, wedi dangos ei gefnogaeth i waith y Ganolfan ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda neges fideo yn tynnu sylw at fanylion y weminar sydd ar ddod.

Dywedodd Dr Ranj: "Gydag 1 o bob 6 o bobl ifanc yn cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl, ni allai ymchwil Canolfan Wolfson fod yn fwy amserol na phwysig. Rwy'n edrych ymlaen at ddilyn taith y Ganolfan dros y misoedd nesaf wrth i'w hymchwil ddechrau i wella bywydau pobl ifanc sy'n wynebu heriau iechyd meddwl."

Mae ymchwil Canolfan Wolfson.hefyd wedi cael ei gymeradwyo gan yr hyrwyddwr iechyd meddwl, yr awdur a’r gwneuthurwr ffilmiau Jonny Benjamin MBE. Ychwanegodd: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi Canolfan Wolfson. Mae ymchwil i iechyd meddwl, yn enwedig iechyd meddwl ieuenctid, yn bwysig ac mae wedi bod yn ddiffygiol ers amser maith. Mae tyfu i fyny gyda phroblemau iechyd meddwl yn anodd iawn ac rwy'n falch o weld y gwaith y mae Canolfan Wolfson yn ei wneud; mae'n mynd i newid ac effeithio ar fywydau cynifer o bobl ifanc yn y dyfodol."

Dywedodd yr Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: "Mae Canolfan Wolfson yn ganolfan ymchwil rhyngddisgyblaethol a chydweithredol sy'n dwyn ynghyd arbenigwyr o wahanol sectorau i ymgymryd ag ymchwil a fydd yn arwain at newidiadau byd go iawn ym maes iechyd meddwl y glasoed. Rydym yn falch iawn o lefel y gefnogaeth i ddigwyddiadau'r Ganolfan hyd yma."

"Bydd y weminar hon sydd ar ddod yn amlygu ac yn dathlu lwyddiant ein cydweithrediadau presennol sydd mor hanfodol yn ein gwaith wrth symud ymlaen ac a fydd yn parhau felly, wrth i ni ymgymryd ag ymchwil a fydd yn helpu pobl ifanc, yn enwedig y rhai sy'n byw â gorbryder ac iselder."
Yr Athro Stephan Collishaw Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Cynhelir y weminar Dyma Ganolfan Wolfson ar 5 Hydref o 13.30 tan 15.00 ac mae'n rhadac am ddim ac yn agored i unrhyw un a hoffai fod yn bresennol. Cofrestrwch ar-lein yn hellowolfsoncentre.eventbrite.co.uk

Rhannu’r stori hon

Dysgwch fwy am Ganolfan Wolfson yn eu digwyddiad rhithwir am ddim.