Ewch i’r prif gynnwys

Therapïau newydd ar gyfer seicosis ôl-enedigol

28 Medi 2021

Professor John Atack writing chemical formula on glass of fume hood

Mae un o bob pum cant o famau yn dioddef o seicosis ôl-enedigol ar ôl rhoi genedigaeth. Cyflwr iechyd meddwl difrifol yw hwn sy'n gysylltiedig â rhithwelediadau, hwyliau isel, hwyliau manig neu weld lledrithiau. Nod prosiect newydd ym Mhrifysgol Caerdydd yw dod o hyd i therapïau newydd.

Mae'r Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau wedi lansio ei brosiect ymchwil newydd sy'n ymchwilio i therapïau newydd ar gyfer y cyflwr iechyd meddwl hwn, gan ganolbwyntio ar gyffur newydd sy'n targedu math o dderbynnydd GABA.

Mae’r opsiynau presennol i drin seicosis ôl-enedigol yn gysylltiedig â sgîl-effeithiau cryf. Byddai gwell therapi yn cael effaith ddramatig ar y rheiny sydd â'r cyflwr.

Dyma a ddywedodd yr Athro John Atack, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd: “Er bod llawer o famau newydd yn teimlo’n isel ar ôl rhoi genedigaeth, mae iselder ôl-enedigol a seicosis ôl-enedigol yn heriau iechyd meddwl difrifol sy’n gwanychu’r fam a gallen nhw hefyd fygwth bywyd.

“Er gwaethaf yr angen sylweddol sydd heb ei ddiwallu, mae’r gwaith o ddatblygu strategaethau therapiwtig newydd yn y meysydd hyn wedi cael ei esgeuluso’n fawr iawn. Fodd bynnag, gobeithio bydd hynny’n newid yn sgîl ein prosiect newydd.”

Lansiwyd y prosiect ymchwil, a ariennir gan Ymddiriedolaeth Wellcome, ar Fedi 27. Ei nod yw mynd i'r afael â'r anghydbwysedd cemegol yn yr ymennydd sy'n digwydd ar ôl genedigaeth a chredir mai hyn sy’n gyfrifol am ddatblygiad seicosis ôl-enedigol.

“Ar hyn o bryd, ymhlith yr opsiynau i drin seicosis ôl-enedigol mae cyffuriau gwrthseicotig, sefydlogwyr hwyliau a therapi electrogynhyrfol. Triniaethau pwerus iawn yw’r rhain, ac ni ddatblygwyd yr un ohonyn nhw yn benodol i drin seicosis ôl-enedigol.

“Nod ein hymchwil yw dod o hyd i ffordd newydd o dargedu derbynnydd GABA. Credwn y bydd cyffur sy'n tarddu o'r prosiect hwn yn trin seicosis ôl-enedigol mewn ffordd sy’n llawer mwy effeithlon ac effeithiol na'r dulliau cyfredol.

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Ymddiriedolaeth Wellcome wedi cydnabod yr angen clinigol ac wedi cytuno i ariannu ein prosiect yn y gobaith y gallwn ni greu rhywbeth a fydd yn cael effaith wirioneddol ar gleifion,” meddai’r Athro Atack.

Rhannu’r stori hon