Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu’r Trysor Llychlynnaidd mwyaf pwysig

14 Medi 2021

'Pearl' - British Library

Anrhydedd genedlaethol am brosiect sy'n archwilio effaith hirdymor y Llychlynwyr ar yr iaith Saesneg

Mae prosiect sy'n ceisio deall dylanwad Llychlyn ar eirfa Saesneg ganoloesol wedi ennill gwobr yr Academi Brydeinig.

Dyfarnwyd Gwobr Syr Israel Gollancz i Brosiect Gersum am ei gyfraniad arloesol at astudiaethau etymoleg Saesneg.

O eirfa fel sky a skin, mae iaith Saesneg pob dydd yn ddyledus i'r dylanwadau Sgandinafaidd cynnar hyn, ac mae wedi'u dogfennu'n ofalus gan ieithyddion y prosiect ac sydd bellach i’w gweld mewn cronfa ddata sy'n hygyrch i'r cyhoedd.

Ar ddechrau'r Oesoedd Canol, roedd dylanwad Sgandinafaidd ar fywyd, iaith a diwylliant Prydain yn sylweddol. Cafodd y Llychlynwyr effaith fawr a pharhaol, ac mae eu gwaddol yn dal i fod yn amlwg mewn cysyniadau modern o hunaniaeth a threftadaeth Prydain.

Wrth gyfeirio at y gair Hen Norwyeg a Saesneg Ganol am 'drysor', mae Prosiect Gersum yn archwilio tarddiad mwy na 900 o eiriau mewn casgliad o gerddi Saesneg Ganol fel Sir Gawain and the Green Knight o Ogledd Lloegr. Drwy ymchwilio i hanes cynnar y geiriau hyn, mae'n dangos sut y gallwn adnabod benthyciadau Hen Norwyeg , ac yn anad dim, sut y cawsant eu defnyddio yn y canrifoedd cyntaf ar ôl iddynt gael eu mabwysiadu i'r Saesneg.

Mae Prosiect Gersum yn waith parhaol Dr Sara Pons-Sanz o Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu'r Brifysgol, a'r Athro Richard Dance a Dr Brittany Schorn o Brifysgol Caergrawnt, mewn cydweithrediad â Sefydliad y Dyniaethau Digidol ym Mhrifysgol Sheffield, a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Rhannu’r stori hon