Ewch i’r prif gynnwys

Blas o laeth a siwgr ar gyfer sbarc

11 Awst 2021

Dewiswyd grŵp caffi annibynnol, llaeth a siwgr, i gynnig lletygarwch yn adeilad nodedig sbarc | spark Prifysgol Caerdydd.

Bydd y caffi, ar Gampws Arloesedd y Brifysgol, ar agor i’r cyhoedd, gan gynnig coffi a chynhyrchion ffres o ansawdd uchel i ymchwilwyr, staff a myfyrwyr y Brifysgol a thrigolion lleol.

Sbarc | spark fydd chweched safle llaeth a siwgr yng Nghaerdydd. Mae gan y grŵp gaffis, ceginau a lleoedd gwaith annibynnol ledled y ddinas, ynghyd â siop eco-fanwerthu a agorwyd yn ddiweddar ym Mhontcanna a chiosg yng nghyfnewidfa reilffordd-fysiau newydd Merthyr Tudful.

Dywedodd y perchennog Tim Corrigan: “Mae grŵp llaeth a siwgr yn edrych ymlaen at fod yn rhan o'r prosiect anhygoel hwn yn adeilad eiconig sbarc | spark Prifysgol Caerdydd. Mae caffis/mannau ymgynnull gwych wrth galon adeilad. Rydym yn credu y bydd ein lletygarwch yn helpu i wireddu mwy o syniadau gwych pan gaiff ei gyfuno â thalent greadigol anhygoel y bobl sy'n defnyddio'r adeilad.”

Disgwylir i sbarc | spark agor y gaeaf hwn, a hwn fydd dolen gyswllt y Brifysgol gyda byd busnes a chymdeithas ehangach: adeilad aml-bwrpas sy'n cyfuno swyddfeydd, labordai, gweithdai a chyfleusterau arddangos sy'n tanio meddyliau creadigol i ddatrys problemau cymdeithasol dybryd a sbarduno mentrau newydd.

Mae'r ganolfan yn dwyn ynghyd 13 o grwpiau ymchwil gwyddorau cymdeithasol a elwir gyda'i gilydd yn SPARK - Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd - ochr yn ochr ag Arloesedd Caerdydd @sbarc - canolfan ar gyfer arloesedd, busnesau newydd a chwmnïau deillio.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, y Dirprwy Is-Ganghellor:

“Roedd cynnig llaeth a siwgr yn cyd-fynd ag ethos SPARK: roeddent yn glir - ac yn gyffrous - ynglŷn â sut y byddai eu cynhyrchion a’u gwasanaeth o ansawdd uchel yn cyfrannu at egni, cymdeithasgarwch, cysylltedd a chreadigrwydd SPARK.”

Yr Athro Damian Walford Davies Y Dirprwy Is-Ganghellor

Bydd tua 400 o ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol wedi'u lleoli yn sbarc | spark, yn gweithio gyda hyd at 400 o gydweithredwyr o fentrau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector.

Mae Campws Arloesedd Caerdydd yn rhan o waith uwchraddio mwyaf ar gampws Prifysgol Caerdydd ers cenhedlaeth, buddsoddiad o £600 miliwn mewn cyfleusterau newydd gan gynnwys Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, adeilad Abacws ar gyfer mathemateg a chyfrifiadureg, a'r Hwb Ymchwil Drosiadol ar gyfer gwyddorau catalysis a lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Rhannu’r stori hon