Ewch i’r prif gynnwys

Cyn-ddisgybl Llwybr at Fusnes yn cyflawni gradd feistr ac yn sefydlu menter gymdeithasol sy'n helpu busnesau lleol

10 Awst 2021

Naser Sakka

Mae Naser Sakka (MSc 2019) yn ddyn teulu gwydn a gyrhaeddodd y DU yn 2015 fel ffoadur o Syria yn dilyn y rhyfel yno. Syrthiodd mewn cariad â Chymru ac, ar ôl iddo gwblhau cwrs a grëwyd ar gyfer ffoaduriaid ym Mhrifysgol Caerdydd, aeth yn ei flaen i ennill meistr a dechrau menter gymdeithasol sydd wedi helpu busnesau lleol, yn enwedig yn ystod y pandemig.

Nid dewis Naser Sakka oedd ymadael â Syria. Roedd ganddo fywyd braf yn ei famwlad, ond ers i’r rhyfel ddechrau, roedd ei fywyd, fel yr oedd yn ei adnabod, bellach wedi ei ddinistrio. Aeth ei deulu ati i ailgychwyn bywyd yng Nghymru a dywed Naser mai cymorth y bobl o’i amgylch oedd wedi eu helpu i oroesi a llwyddo.

“Cawson ni ein hanfon i ardaloedd gwahanol yn y DU pan gyrhaeddon ni fel ffoaduriaid, a fy nhynged i oedd glanio yng Nghymru. A dyna dynged hyfryd oedd hi! ”

Felly roedd Naser bellach yng Nghaerdydd, yn byw gyda theulu o Gymru am chwe mis ac yn aros i’w wraig a’i blant ymuno ag ef.

“Cefais fy anfon i Gaerdydd ac roedd yn hyfryd iawn. Mae’n agos at y môr ac roeddwn i wrth fy modd yn dod i adnabod y cestyll a dysgu am yr hanes. Ar ôl ychydig o wythnosau, cwrddais i â rhai pobl, siarad â nhw a darganfod bod hon yn ddinas amrywiol ei natur. Mae’r bobl yn garedig ac yn groesawgar. Rwy mewn cysylltiad o hyd â’r teulu roeddwn i’n byw gyda nhw pan gyrhaeddais i, ac rydyn ni’n ymweld â’n gilydd pan fydd hynny’n bosibl. ”

Teimlai Naser yr angen i fod yn rhagweithiol ac i gymryd rhan yn y gymuned gymaint ag y gallai.

“Gwirfoddolais i â dau sefydliad, sef Cyngor Ffoaduriaid Cymru a’r Clwb Rotari. Mae gan y Cyngor Ffoaduriaid lawer o gyrsiau, ac mae rhai ohonyn nhw yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd. Rwy wedi mynychu rhai o’r rhain a dyna sut y des i i wybod am y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd – Gwireddu’ch Potensial ym myd Busnes. “

Cwrs oedd Gwireddu’ch Potensial ym myd Busnes a lansiwyd yn 2016 mewn cydweithrediad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a myfyrwyr Enactus, a addysgwyd gan yr Athro Tim Edwards. Mae’n cael ei addysgu i bobl cyn iddyn nhw fynd i’r brifysgol a’i nod yw creu lle i ffoaduriaid integreiddio a rhoi cyfleoedd iddyn nhw. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr Enactus, timau o fyfyrwyr entrepreneuraidd sy’n creu ac yn cyfrannu at brosiectau cymunedol i rymuso’r rheiny mewn angen, ac maen nhw’n gweithio gyda’i gilydd ar gyflwyno cynnig ar gyfer busnes.

Dyma a ddywedodd Tim: “Mae’n lle braf iawn i geisio datblygu eich dealltwriaeth. O ran y myfyrwyr, maen nhw’n dechrau deall profiad ffoaduriaid, ac mae’r ffoaduriaid yn gweithio gyda’r myfyrwyr mewn cyd-destun sy’n fwrlwm o egni. Maen nhw’n darganfod sut i greu rhwydwaith.”

“Mae Naser wedi bod yn hynod entrepreneuraidd, llwyddodd yn dda iawn ar y modiwl ac roedd yn cyfrannu’n mewn ffordd ymrwymedig iawn. Sylwodd yr Athro Martin Kitchener o Ysgol Busnes Caerdydd (PhD 1996) ar hyn, gan benderfynu noddi meistr Naser,” eglura Tim.

“Gwnes i’r cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd ac roeddwn i wrth fy modd,” meddai Naser. “Gwnes i gwrdd â myfyrwyr Enactus a chymerais i ran mewn nifer o brosiectau anhygoel gyda nhw. Roeddwn i mor hapus i weithio gyda nhw ac roeddwn i’n gwybod y byddwn i wrth fy modd yn parhau a gwneud gradd mewn busnes. “

Er mwyn ennill ei radd meistr, cwblhaodd Naser hefyd Lwybr gydag Addysg Barhaus a Phroffesiynol a alluogodd i ymgeisio am radd ôl-raddedig yn Ysgol Busnes Caerdydd.

“Pan rydych chi’n rhywun sydd newydd gyrraedd, dyw pethau ddim yn hawdd. Does gennych chi ddim hyder oherwydd nad ydych chi’n gwybod ble y gallwch chi wneud busnes na chwaith sut i wneud rhai pethau. Mae’r cyrsiau hyn yn rhoi’r hyder ichi gychwyn busnes, ymgeisio am swyddi neu astudio rhagor. “

Tra ei fod yn astudio ar gyfer ei feistr, lluniodd Naser syniad gwych ar gyfer busnes, un a allai helpu busnesau lleol i ffynnu.

“Pan roeddwn i’n gwneud fy MA, bydden ni’n gwneud gweithgareddau a thaflu syniadau, ac yng nghanol y cwrs cefais i’r syniad hwn. Gwelais i’r ffordd yr oedd pobl yn gweithio, gan gwrdd â llawer o bobl nad oedden nhw’n defnyddio technoleg yn y ffordd orau. Roeddwn i’n meddwl y gallai fod o gymorth iddyn nhw gael rhywbeth fel Townmart. ”

“Y syniad y tu ôl i Townmart yw rhoi’r cyfle i fusnesau lleol gael presenoldeb ar-lein, megis gwefan, siop ar-lein, neu system archebu. Rydyn ni’n helpu i sefydlu’r pethau hyn. Mae’n fforddiadwy iawn ac nid yw’r busnesau’n talu i sefydlu eu cyfrif na’u gwefan, gan ein bod ni’n rhoi blwyddyn iddyn nhw yn rhad ac am ddim. ”

Yn ystod y pandemig, sylwodd Naser ar y ffaith bod pobl yn ei chael yn anodd cadw eu busnesau oherwydd nad oedd ganddyn nhw bresenoldeb ar-lein, ac yna dechreuodd weithio gyda busnesau ym Mhenarth i’w helpu i greu un.

“Rydw i wrth fy modd yn cyfrannu at y gymuned oherwydd fy mod i wir yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth rwy i wedi ei derbyn yma, yn enwedig pan gollon ni ein bywydau yn Syria. Roedd yn rhaid inni ailgychwyn, a heb gefnogaeth pobl fyddwn i ddim wedi cyrraedd y pwynt hwn. Mae llawer o’r cyrsiau wedi bod yn rhad ac am ddim a grant oedd yn talu am y rhan fwyaf o fy MA. Roeddwn i’n arfer gwirfoddoli’n amser llawn er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl! ”

Gweledigaeth Naser ar gyfer Townmart yw cynnig eu gwasanaethau i bob busnes lleol yn y DU yn y pen draw.

“Rydw i mewn cysylltiad â Chyngor Ffoaduriaid Cymru a llawer o sefydliadau eraill i wthio hyn yn ei flaen ac mae yna lawer o bobl y mae angen y gefnogaeth hon arnyn nhw, ond dydyn nhw ddim yn gwybod amdanon ni eto!”

Mae Naser wedi dysgu llawer yn sgîl y profiad hwn ac mae wedi cadw mewn cysylltiad â’r Athro Tim Edwards yn ogystal â gwneud cysylltiadau eraill drwy gydol yr amser.

“Fy nghyngor i bobl eraill sy’n cyrraedd y DU yw bod yn rhagweithiol. Ewch i sefydliad fel Cyngor Ffoaduriaid Cymru a chymerwch ran yn yr hyn sy’n digwydd. Mae yna lawer o sefydliadau a fydd yn helpu o ran eich astudiaethau. Peidiwch â bod yn swil, a pheidiwch ag aros. Pan fydd pobl yn cyrraedd, maen nhw’n teimlo ychydig bach yn ofnus, ac maen nhw’n poeni na fydd y gymuned yn eu derbyn. Fy nghyngor i yw gadael i’r bobl ddod i’ch adnabod. Pan fyddan nhw’n dod i’ch adnabod ac rydych chi’n dod yn wyneb cyfarwydd, maen nhw’n bobl neis iawn mewn gwirionedd. Dyma beth rydw i wedi ei wneud. Gwirfoddolais i a gwnes i rywfaint o waith anhygoel gyda’r sefydliadau hyn. ”

Mae menter gymdeithasol Naser, Townmart, bellach ar ben y ffordd ac ar waith. Mae’r Athro Tim Edwards yn gobeithio ailgychwyn y cwrs ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig y cyfle nid yn unig i gymuned y ffoaduriaid ond hefyd i’r gymuned ddigartref, a hynny pan fydd y cyfyngiadau wedi llacio.

Rhannu’r stori hon