Ewch i’r prif gynnwys

Aelod o staff Prifysgol Caerdydd yn defnyddio ei sgiliau meddygol i helpu lle bu damwain

5 Awst 2021

Mae un o weithwyr Prifysgol Caerdydd a aeth ati i helpu lle bu damwain car wedi sôn am ei ryddhad nad oedd neb wedi'i frifo'n fwy difrifol.

Roedd Gareth Hughes, Pennaeth Iechyd a Lles Myfyrwyr, yn nhafarn Windsor Hotel ym Mhont-y-clun ddydd Iau, 22 Gorffennaf, pan darodd car ei gyd-dafarnwyr. Aethpwyd â phump o gerddwyr i'r ysbyty ar ôl i'r gyrrwr, a oedd yn 79 oed, fynd yn sâl wrth yr olwyn yn ôl yr heddlu.

Ac yntau’n dad i ddau o blant sydd wedi gweithio yn y Brifysgol ers 2014, gwnaeth Gareth ddefnyddio’r sgiliau meddygol a sgiliau rheoli digwyddiadau a ddatblygodd yn ystod ei ddeng mlynedd fel Swyddog Troedfilwyr i helpu'r rhai a anafwyd a chydlynu ymdrechion cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Dywedodd: "Roedd rhai o'r tadau o ysgol fy mab wedi trefnu noson allan i gael diodydd a chyrri, y cyntaf mewn sbel oherwydd COVID-19. Roedd yn noson braf, ac roeddem i gyd y tu allan i'r dafarn yn sgwrsio.

"Roedd un o fy ffrindiau Tom, wedi mynd i mewn i’r dafarn i brynu diodydd i bawb pan glywais glec fawr. Ar ôl troi, gwelais y car yn rholio'n ôl a chwmwl o lwch.

"Codais yn gyflym, a dechreuais wneud asesiad cychwynnol a brysbennu'r rhai a anafwyd. Gofynnais i bobl eraill o'r dafarn, gan gynnwys fy ffrindiau, eistedd gyda nhw a pharhau i siarad â nhw.

"Y person a anafwyd fwyaf oedd dyn 30 oed o’r enw Darren, ac roedd yn eistedd ar y llawr. Roedd y car wedi taro yn erbyn ei goes chwith tra oedd yn eistedd wrth fainc bicnic. Treuliais weddill yr amser yn ceisio gwneud popeth a allwn ar ei gyfer a rhoi sicrwydd i'w deulu, a ddaeth i’w weld yn ddiweddarach."

"Roeddwn yn gallu gweld bod anaf difrifol i’w goes a’i fod mewn sioc. Cyflwynais fy hun iddo. Ar ôl ei gysuro, edrychais arno i weld a oedd ganddo unrhyw anafiadau eraill, a gofynnais i staff y dafarn am becyn cymorth cyntaf, tyweli glân a dŵr soda i lanhau a thrin ei anaf.”

"Roedd staff y dafarn yn wych. Roedd aelod o’r staff ar y ffôn i'r ambiwlans. Roedd yn dal y ffôn wrth ymyl fy nghlust er mwyn i mi allu disgrifio’r sefyllfa wrth geisio atal y gwaedu o goes Darren."

Major Hughes on Exercise WESSEX STORM on Sailsbury Plain Feb 2017

Ychwanegodd Gareth, sydd wedi bod ar bedair taith ymgyrchol yn Affganistan gyda Bataliwn 1af y Cymry Brenhinol: "Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i gael hyfforddiant ar sut i ddelio â sefyllfaoedd fel hynny. Rwy’n gwybod ei bod yn bwysig peidio â chynhyrfu. Ceisiais ddefnyddio fy synnwyr digrifwch hefyd a jocio gyda Darren i gadw ei feddwl oddi ar yr hyn a oedd yn digwydd. Ers hynny, mae Darren wedi dweud bod yr hiwmor hwn wedi ei helpu i aros yn gadarnhaol am y sefyllfa a’r hynny a fydd yn broses wella hir.”

"Yn sicr, nid oeddwn yn disgwyl gwneud hynny y noson honno. Mae'n dangos nad oes modd rhagweld popeth mewn bywyd. Mae ymateb i sefyllfaoedd annisgwyl yn rhywbeth y gwnaeth fy ngyrfa flaenorol yn y fyddin fy mharatoi ar ei gyfer. Rwy'n falch na chafodd neb ei anafu'n fwy difrifol a'n bod wedi gallu gweithredu'n gyflym."

Gwnaeth y tad 39 oed, sydd â BSc mewn Daearyddiaeth Forol o Brifysgol Caerdydd, ganmol gwaith cyflym pawb yn y dafarn a chriw Ambiwlans Awyr Cymru. "Roedd criw da o bobl yno, a gwnaeth pawb weithio gyda’i gilydd. Mae teimlad cryf o gymuned yma."

Mae Darren, sydd yn yr ysbyty o hyd, wedi cysylltu ag ef hefyd. Dywedodd: "Cefais neges hyfryd ganddo dros Facebook. Rwy’n dymuno gwellhad buan iddo ac yn gobeithio cwrdd ag ef pan fydd wedi gwella."

Rhannu’r stori hon