Ewch i’r prif gynnwys

O’r holl allbynnau ymchwil a draciwyd gan Altmetric erioed, mae Adolygiad Systematig gydag awduron o Wasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol (ULS) ymysg y 5% uchaf.

2 Awst 2021

Mae adolygiad systematig ar aspirin a goroesi canser, dan arweiniad yr Athro Peter Elwood a chyda dau awdur o ULS, Delyth Morris (Llyfrgellydd Pwnc, yr Ysgol Meddygaeth) ac Alison Weightman (Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu, SURE), wedi cael effaith fawr yn ôl Altmetric.  Mae cronfa ddata Altmetric yn mesur pa mor aml y mae erthyglau ymchwil yn cael eu trafod a'u defnyddio ar draws y byd, gan gynnwys mewn dogfennau polisi, blogiau, yn y cyfryngau, ac mewn cyfryngau cymdeithasol.

Yn ystod y pedair wythnos ers cyhoeddi'r adolygiad mae wedi cael ei weld 7299 o weithiau a'i grybwyll mewn 18 darn o newyddion, dau flog, 56 o drydariadau a dwy dudalen facebook.  Mae 'Sgôr' yr adolygiad o 171 yn golygu ei fod, o’r holl allbynnau ymchwil a sgoriwyd gan Altmetric erioed, ymhlith y 5% uchaf.

Elwood PC, Morgan G, Delon C, Protty M, Galante J, Pickering J, Watkins J, Weightman A and Morris D. Aspirin and cancer survival: a systematic review and meta-analyses of 118 observational studies of aspirin and 18 cancers.   eCancer 2021: 15; 1258   doi.org/10.3332/ecancer.2021.1258

Rhannu’r stori hon