Ewch i’r prif gynnwys

Cynllun cyfraith cyflogaeth yn cwblhau blwyddyn gyntaf o gynghori ar-lein

30 Gorffennaf 2021

Mae cynllun pro bono yng Nghaerdydd wedi cwblhau ei flwyddyn gyntaf o wasanaeth ar-lein ar ôl cynnig cefnogaeth werthfawr i aelodau o'r cyhoedd drwy'r pandemig.

Mae cynllun Cyfraith Cyflogaeth Streetlaw wedi bod yn rhan o gynnig pro bono'r Ysgol ers 2017, gyda myfyrwyr y Gyfraith yn cynnig sesiynau arweiniad misol i bartïon heb gynrychiolaeth yn Nhribiwnlys Cyflogaeth Caerdydd.  Nod eu cyflwyniadau yw tywys hawlwyr drwy'r broses a'u helpu i wybod beth i'w ddisgwyl.

Gall tribiwnlys glywed amrywiaeth o anghydfodau rhwng cyflogwyr a gweithwyr a all gynnwys diswyddo annheg, taliadau diswyddo a gwahaniaethu ar sail cyflogaeth.

Pan ddechreuodd cyfnod clo COVID-19, roedd Barnwyr Cyflogaeth yng Nghaerdydd yn awyddus i'r gwasanaeth barhau ond dim ond mewn amgylchedd oedd yn ddiogel i bawb. Gohiriwyd sesiynau wyneb yn wyneb, gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn troi at eu Platfform Fideo Cwmwl (CVP) ar gyfer gwrandawiadau ar-lein. Roedd hyn yn golygu y gallai timau myfyrwyr Streetlaw gyflwyno o'u cartrefi gydag ambell un yn cysylltu o lefydd mor bell â Kenya hyd yn oed.

Mae cyflwyno i hawlwyr yn datblygu hyder, sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm, ond drwy ychwanegu elfen ar-lein i'r cynllun, mae ein myfyrwyr hefyd wedi sicrhau sgiliau cyflwyno digidol gwerthfawr, yn ogystal â sgiliau datrys problemau pan aiff pethau o chwith ar-lein.

Dywedodd arweinydd y cynllun, Sarah Saunders, “Mae newid i gyflwyno ar-lein eleni wedi bod yn heriol ond hoffwn ddiolch i fyfyrwyr Streetlaw am eu cyfranogiad a’u brwdfrydedd, oedd yn golygu bod modd parhau i gyflwyno arweiniad i hawlwyr heb gynrychiolaeth yn y Tribiwnlys Cyflogaeth. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda'r prifysgolion sy'n cydweithio gyda ni a gyda'r Barnwyr Cyflogaeth a'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) i hwyluso mynediad at gyfiawnder wyneb yn wyneb ac ar-lein dros y flwyddyn nesaf."

Mae'r adborth gan aelodau o'r cyhoedd a'r Barnwyr Cyflogaeth wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae hawlwyr wedi disgrifio’r cyflwyniadau fel rhai “trylwyr ac addysgiadol” gan egluro eu bod yn gwneud i’r profiad deimlo’n llai brawychus o lawer. Dywedodd y Barnwr Cyflogaeth, Barry Clarke (Llywydd Tribiwnlysoedd Cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr), “Rwyf i bob amser yn gwerthfawrogi’r gwaith a wneir gan fyfyrwyr i sicrhau bod cyfiawnder yn y Tribiwnlys Cyflogaeth yn fwy hygyrch i’n defnyddwyr.”

Mae cynllun Cyfraith Cyflogaeth Streetlaw yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru ac, yn flaenorol, BPP Bryste hefyd. Ceir rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau pro bono eraill ar ein gwefan bwrpasol.

Rhannu’r stori hon