Ewch i’r prif gynnwys

Arian i ymchwil gwerthoedd amrywiol

6 Awst 2021

Ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd yn cael arian ar gyfer prosiect amlddisgyblaethol a fydd yn llywio polsïau morol y dyfodol.

Mae Dr Emma McKinley, cyd-ymchwilydd prosiect ‘Integreiddio Gwerthoedd Amrywiol i Drefniadau Rheoli’, wedi cael arian gan Gronfa Blaenoriaethau Strategol Rheoli Adnoddau Morol y DU yn Gynaliadwy. Mae’r fenter £12.4m yn gweithio i gefnogi ymchwil forol er mwyn mynd i’r afael â bylchau difrifol a nodwyd gan lunwyr polisïau’r DU yn eu gwybodaeth.

Nod y prosiect, sydd wedi’i arwan gan yr Athro Stephen Fletcher ym Mhrifysgol Portsmouth, yw ymgorffori gwerthoedd amrywiol i benderfyniadau drwy wella gallu trawsddisgyblaethol cymuned rhanddeiliaid ac ymchwilwyr polisi morol y DU.

Mae gwerthoedd amrywiol yn cynnwys gwerthoedd economaidd, gwerthoedd cymdeithasol a diwylliannol, gwerthoedd esthetig, a gwerthoedd naturiol, a sut y gellid eu hystyried mewn fframweithiau penderfynu.

Mae cysylltiad annatod rhwng amgylcheddau morol a lles dynol ar ffurf systemau cymdeithasol-ecolegol cymhleth sy’n rhychwantu ardaloedd daearol, arfordirol, a morol. Er bod y cymhlethdod hwn yn cael ei gydnabod yn eang mewn theori, nid yw’r modelau presennol ar gyfer arferion rheoli adnoddau morol yn gwneud digon i fabwysiadu’r dulliau trawsddisgyblaethol sydd eu hangen i ddefnyddio gwerthoedd amrywiol, ac nid oes ganddynt y gallu i’w halinio â phenderfyniadau gwaith datblygu polisïau.

Mae pontio i ddulliau trawsddisgyblaethol a gwerthoedd amrywiol yn her y mae llawer o gymunedau gwyddor y môr a pholisïau morol ledled y byd yn eu hwynebu, ac mae hyn wedi’i gydnabod fel blaenoriaeth ar gyfer Degawd Gwyddor y Môr er Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae’n her drawsbynciol sy’n effeithio ar yr holl flaenoriaethau ar gyfer rheoli morol. Mae cynnwys gwerthoedd amrywiol, yn enwedig rhai o natur ansoddol, i brosesau rheoli morol y DU yn hanfodol, ond ar hyn o bryd mae hyn y tu hwnt i brofiad, gallu, ac ardal gysur llawer o sefydliadau ac unigolion yn y gymuned o ymchwilwyr ac ymarferwyr rheoli morol.

Gan weithio ar draws tri safle astudiaeth brawf, sef New Haven, y rhan uchaf o Aber Hafren, ac Ynysoedd Shetland, nodau’r prosiect hwn yw:

  • cynhyrchu sail gysyniadol newydd ar gyfer ymgorffori dulliau rheoli ac ymchwil morol trawsddisgyblaethol a gwerthoedd dynol amrywiol i waith rheoli morol yn y DU.
  • cyfuno data ecolegol ac economaidd â dulliau gwerthoedd amrywiol newydd (a gesglir gan ddefnyddio duliau y tu allan i’r gymuned forol yn bennaf) i ddatblygu dealltwriaeth drawsddisgyblaethol arloesol a holistaidd o’r gwerth y mae cymunedau arfordirol yn ei roi ar adnoddau morol a’r trefniadau ar gyfer eu rheoli.
  • gwerthuso, drwy brofion ar lawr gwlad, sut gall gwerthoedd amrywiol: 1) gael eu defnyddio i ddatgloi potensial llythrennedd morol fel dull polisi defnyddiol; a 2) cael eu hintegreiddio i sefydliadau ac arferion llywodraethu morol i weddnewid canlyniadau cynaliadwy.
  • creu a gweithredu cynllun pontio ar raddfa genedlaethol i helpu cymuned rheoli ac ymchwil forol y DU i brif-ffrydio dulliau trawsddisgyblaethol.

Bydd y prosiect yn arwain at ddealltwriaeth well o werthoedd amrywiol mewn polisïau a phenderfyniadau morol a defnydd uwch ohonynt, ynghyd â chynlluniau pontio ar gyfer sefydliadau i hwyluso’r broses o ymgorffori arferion trawsddisgyblaethol i weithrediadau sefydliadau. Mae’r prosiect yn un o chwe phrosiect rhyngddisgyblaethol sydd wedi cael arian gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, ac Ymchwil ac Arloesedd y DU o dan raglen Rheoli Adnoddau Morol y DU yn Gynaliadwy.

Rhannu’r stori hon