Ewch i’r prif gynnwys

Hwb ariannol mawr wedi’i roi i bartneriaeth hyfforddiant dan arweiniad Prifysgol Caerdydd

8 Gorffennaf 2021

Mae’r Cyngor Ymchwil Feddygol wedi rhoi hwb ariannol mawr i bartneriaeth hyfforddiant doethurol dan arweiniad Prifysgol Caerdydd.

Bydd yr arian yn cefnogi 64 o ysgoloriaethau dros dair blynedd o 2022 ym mhrifysgolion GW4, sef Caerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg.

Bydd Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol BioMed2 GW4 y Cyngor Ymchwil Feddygol yn hyfforddi ôl-raddedigion ymchwil mewn tri phrif faes: niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl; heintiau, imiwnedd, ymwrthedd gwrthficrobaidd a thrwsio; a gwyddorau iechyd y boblogaeth.

Mae’n rhan o fuddsoddiad o £79m gan y Cyngor Ymchwil Feddygol i gefnogi hyfforddiant doethurol dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol BioMed GW4 y Cyngor Ymchwil Feddygol, yr Athro Colin Dayan o'r Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: “Mae hyn yn dangos y cysylltiadau gwaith agos y mae ein cymunedau ôl-raddedig wedi’u meithrin dros y chwe blynedd diwethaf a datblygiad enw da ein rhaglen yn genedlaethol. Gyda chymuned o dros 750 o oruchwylwyr posibl a naw partner diwydiannol, byddwn yn gallu cynnig profiad hyfforddi rhagorol i’n myfyrwyr.”

Dywedodd Cyfarwyddwr GW4, Dr Jo Jenkinson: “Mae sefydliadau GW4 yn cynnal dros 30 o Ganolfannau a Phartneriaethau Hyfforddiant Doethurol a ariennir yn allanol, sy’n golygu y gall myfyrwyr fanteisio ar gryfderau ymchwil, arbenigedd hyfforddi ac adnoddau cyfunol pedair prifysgol flaenllaw ac ymchwil-ddwys, sef Caerdydd, Caerfaddon, Bryste a Chaerwysg.

“Drwy gydweithio ar draws y gynghrair, rydym yn cynnig cyfleoedd ymchwil eithriadol i’n myfyrwyr ac yn rhoi iddynt y sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â rhai o’r heriau cymdeithasol anoddaf.”

Dywedodd yr Athro Fiona Watt, Cadeirydd Gweithredol y Cyngor Ymchwil Feddygol: “Mae ein dyfarniadau newydd yn canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn ceisio gwella amrywiaeth  ymhlith unigolion sy’n dilyn gyrfa ymchwil a rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ehangu eu gorwelion yn ystod ac ar ôl gwneud PhD.”

Mae Partneriaeth BioMed1 GW4 wedi darparu hyfforddiant unigryw i arweinwyr ymchwil y dyfodol ers y chwe blynedd diwethaf. Bydd y dyfarniad newydd hwn yn gweld Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol BioMed GW4 y Cyngor Ymchwil Feddygol yn parhau ar ei hail gam am dair blynedd arall, gyda’r garfan gyntaf o’r ysgoloriaethau newydd ym mis Hydref 2022.

Bydd yr alwad am gynigion prosiect ar gyfer y garfan gyntaf hon yn cael ei lansio ddydd Llun, 12 Gorffennaf. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol yn www.gw4biomed.ac.uk neu drwy ebostio gw4biomed@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon