Ewch i’r prif gynnwys

Astudiaeth newydd yn awgrymu bod cyhoedd y DU yn ystyried COVID-19 yn fygythiad oherwydd cyfnodau clo

7 July 2021

Mae cyhoedd y DU yn debygol o gymryd pandemig COVID-19 yn llai o ddifrif pan fydd cyfyngiadau’n cael eu codi, yn ôl ymchwil newydd wedi’i harwain gan Brifysgol Caerdydd.

Dangosodd seicolegwyr mai’r cyfnod clo ynddo’i hun oedd y prif reswm pam roedd cymaint o bobl yn barod i gadw at y rheolau o’r dechrau – roeddent yn credu bod yn rhaid i’r bygythiad fod yn ddifrifol os yw'r Llywodraeth yn cymryd camau mor ddifrifol.

Ymchwiliodd y tîm o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Essex i’r rhesymau y tu ôl i’r gefnogaeth yn yr arolygon barn i’r camau a gymerwyd. Gwnaeth y tîm gynnal dau arolwg yn y DU*, chwe mis ar wahân, yn ystod 2020. Mae’r canfyddiadau wedi’u cyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Royal Society Open Science.

Dywedodd y prif awdur, Dr Colin Foad: “Yn rhyfeddol, gwelsom fod pobl yn barnu difrifoldeb bygythiad COVID-19 yn ôl y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi cyfnod clo – mewn geiriau eraill, roeddent yn meddwl bod yn rhaid i’r sefyllfa fod yn wael os yw’r Llywodraeth yn cymryd camau mor ddifrifol.

“Gwnaethom hefyd weld po fwyaf y gwnaethant ystyried y risg yn y ffordd hon, y mwyaf y gwnaethant gefnogi’r cyfnod clo. Mae hyn yn awgrymu y gall pobl fychanu bygythiad COVID-19 os a phan fydd ‘Diwrnod Codi’r Cyfyngiadau’ yn cyrraedd.

Mae’r ymchwil hefyd yn dangos:

  • Bod pobl o blaid y cyfnod clo ond, eto, yn meddwl bod llawer o’r sgîl-effeithiau’n “annerbyniol” wrth ddadansoddi cost a budd;
  • Bod targedu teimlad personol pobl o fygythiad yn annhebygol o’u gwneud yn fwy o blaid cyfyngiadau.

Dywedodd Dr Foad: “Yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld cefnogaeth gyhoeddus gref i gyfnodau clo, ond mae ein hymchwil yn awgrymu bod teimladau pobl wedi gwrthdaro’n llawer mwy na’r hyn y mae’r arolygon barn yn ei awgrymu.

“Er enghraifft, wrth i bobl feddwl am gostau’r polisi hwn, megis y niwed i iechyd meddwl pobl a’r cwtogi ar y driniaeth y gellid ei chael ar gyfer problemau iechyd heb gysylltiad â COVID-19, gwelsom y gallant orbwyso’r manteision.

O ran y canfyddiadau sy’n ymwneud â bygythiad personol, dywedodd: “Er mwyn ceisio cadw cefnogaeth y cyhoedd i gyfnodau clo’n uchel, mae’r Llywodraeth wedi rhoi cynnig ar wahanol strategaethau, gan gynnwys atgoffa pobl COVID-19 yn eu peryglu nhw a’u hanwyliaid.

“Fodd bynnag, rydym yn gweld nad yw teimlad personol y rhan fwyaf o bobl o fygythiad yn effeithio ar eu cefnogaeth i gyfyngiadau. Yn lle hynny, roedd pobl yn ystyried y bygythiad mewn ffordd fwy cyffredinol o lawer, fel y bygythiad i’r wlad gyfan. Felly, mae unrhyw negeseuon sy’n targedu eu teimlad personol o fygythiad yn annhebygol o wella’r gefnogaeth i unrhyw gyfyngiadau pellach mewn gwirionedd.”

Rhybuddiodd yr ymchwilwyr fod risg y byddai barn y cyhoedd a pholisi'r Llywodraeth yn “ffurfio perthynas symbiotig”, a allai effeithio ar sut mae polisïau'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Dywedodd yr Athro Lorraine Whitmarsh, Seicolegydd Amgylcheddol o Brifysgol Caerfaddon: “Mae i hyn oblygiadau pwysig i’r ffordd rydym yn mynd i’r afael â risgiau eraill, fel newid yn yr hinsawdd – bydd y cyhoedd yn fwy tebygol o gredu bod problem yn ddifrifol os bydd llywodraethau’n gweithredu polisïau beiddgar i fynd i’r afael â hi.”

Awgrymodd yr Athro Whitmarsh y gallai camau beiddgar gynnwys atal unrhyw waith adeiladu ffyrdd (fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar yng Nghymru) neu rwystro gwaith i ehangu meysydd awyr.

Mae'r ymchwilwyr yn galw am ddefnydd mwy arloesol o ddata arolygon barn yn ystod y pandemig i fesur amrywiaeth a chymhlethdod barn y cyhoedd yn gywir.

Dywedodd Dr Paul Hanel, Darlithydd Seicoleg ym Mhrifysgol Essex: “Mae data arolygon barn o samplau mawr yn bwysig er mwyn deall beth mae pobl yn ei feddwl. Mae ein hastudiaeth yn dangos ei bod yn hollbwysig gofyn y cwestiynau cywir. Fel arall, dim ond darlun cyfyngedig, a chamarweiniol o bosibl, rydym yn ei gael o ba mor amrywiol, a chroes hyd yn oed, y mae safbwyntiau’r cyhoedd mewn gwirionedd.”

Rhannu’r stori hon