Rhagweld y galw, gwella stocrestrau
2 Gorffennaf 2021
Rhagweld y galw byd-eang ar gyfer nwyddau yw'r nod pennaf ym maes logisteg ryngwladol.
Er bod rhai y gwaith o werthu cynnyrch yn dilyn patrymau rhagweladwy, bydd rhai eraill yn llawer anos i'w cyfrifo.
Mae creu a morgludo cynhyrchion nad ydyn nhw'n gwerthu yn ychwanegu at wastraff ac yn rhoi pwysau ar gadwyni cyflenwi byd-eang.
Bellach, nod llyfr newydd gan ddau arbenigwr academaidd blaenllaw yn y DU yw helpu ymarferwyr i ddeall yn well y dasg o ragweld galw a rheoli stocrestrau, gan arwain at fanteision mwy effeithlon a gwyrddach ym maes logisteg fyd-eang.
Intermittent Demand Forecasting, gan yr Athro John Boylan , Prifysgol Caerhirfryn, a'r Athro Aris Syntetos , Prifysgol Caerdydd, yw'r gyfrol gyntaf erioed i ganolbwyntio ar ddulliau a methodolegau rhagweld galw ysbeidiol yn hytrach na galw cyflym.
Mae John ac Aris wedi bod yn gweithio'n agos gyda chwmnïau cadwyni cyflenwi a meddalwedd i wella’r gwaith o ragweld galw a rheoli stocrestrau.
Mae’r llyfr, Intermittent Demand Forecasting, a gyhoeddwyd gan Wiley, yn trafod sut y dylid mesur llwyddiant yng nghyd-destun rheoli stocrestrau a chadwyni cyflenwi ac yn egluro’r prif ddulliau rhagweld drwy ddefnyddio enghreifftiau a lluniau fesul cam.
Dyma a ddywedodd John Boylan, Athro Dadansoddeg Busnes ym Mhrifysgol Caerhirfryn: “Llyfr yw Intermittent Demand Forecasting ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella’r dasg o rhagweld cynhyrchion galw ysbeidiol yn ogystal â gwella’r gwaith o reoli stocrestrau. P'un a ydych chi'n ymarferwr, ar reng flaen cynllunio’r galw, dylunydd meddalwedd, myfyriwr, academydd sy’n addysgu cyrsiau ymchwil weithredol neu gyrsiau rheoli gweithrediadau, neu'n ymchwilydd yn y maes hwn, ein gobaith yw y bydd y llyfr yn eich ysbrydoli i feddwl o’r newydd am y ffyrdd y bydd galw yn cael ei ragweld”
Dyma a ddywedodd Aris Syntetos, Athro Ymchwil Weithredol a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd: “Dydyn ni ddim yn rhagdybio unrhyw wybodaeth flaenorol am ragweld galw ysbeidiol na rheoli stocrestrau yn ein llyfr. Ar y cyd â’r fformwlâu allweddol ceir enghreifftiau fesul cam sy’n dangos sut y gellir eu rhoi ar waith yn ymarferol. I'r rhai sy'n dymuno deall y gwaith theoretig yn fanylach, ceir nodiadau technegol ar ddiwedd pob pennod, yn ogystal â chasgliad helaeth a chyfredol o gyfeiriadau i'w hastudio ymhellach. Gobeithiwn y gall y gyfrol hon chwarae ei rhan wrth wella effeithlonrwydd cadwyni cyflenwi byd-eang a lleihau’r cynnyrch sydd ar ddiwedd ei oes yn ogystal â gostwng gwastraff a deunydd tirlenwi.”
Wrth groesawu’r gyfrol newydd, dyma a ddywedodd Spyros Makridakis, Athro ym Mhrifysgol Nicosia a Chyfarwyddwr Sefydliad y Dyfodol a Chanolfan Rhagweld Agored Makridakis (MOFC): “Gall rhagweld galw ysbeidiol ymddangos yn faes arbenigol ond mewn gwirionedd mae wrth wraidd yr ymdrechion ym maes cynaliadwyedd i ddefnyddio llai ac i wastraffu llai. Mae Boylan a Syntetos wedi gwneud gwaith rhagorol wrth ddangos sut mae gwelliannau ym maes rheoli stocrestrau yn rhan ganolog yn y gwaith o gyflawni hyn. Mae eu llyfr yn ymdrin â theori ac arferion rhagweld galw ysbeidiol ac rwy’n rhagweld mai hwn fydd y Beibl yn y maes cyn bo hir. ”
Ychwanegodd Thomas R. Willemain, Athro Emeritws, Sefydliad Polytechnig Rensselaer: “Ers talwm, mae Boylan a Syntetos wedi bod yn arweinwyr yn y dasg o ymestyn dulliau rhagweld a stocrestrau, a hynny er mwyn cwmpasu’r realiti newydd hwn. Mae eu llyfr yn casglu ac yn egluro degawdau o ymchwil yn y maes hwn, ac mae’n egluro sut y gall ymarferwyr fanteisio ar yr wybodaeth hon i beri bod y gwaith a wnân nhw yn fwy effeithlon ac effeithiol.”
Mae Intermittent Demand Forecasting gan John E. Boylan ac Aris A. Syntetos ar gael gan Wiley. ISBN: 978-1-119-13530-2 Mehefin 2021 400 Tudalen
Gallwch chi weld fideo animeiddio byr sy’n egluro'r themâu craidd yn y llyfr.