Ewch i’r prif gynnwys

Rasio cychod papur i achub dyn a foddodd

23 Mehefin 2021

Pupils from Maes Y Coed Primary School making boats for the Dragon Boat Festival
Disgyblion Ysgol Gynradd Maes y Coed ym Mhontypridd a'u cychod gorffenedig.

Gŵyl draddodiadol bwysig yn Tsieina ac mewn llawer o wledydd Asiaidd eraill yw Gŵyl Cychod y Ddraig, 'Duanwu' neu 端午.

Dathliad yw’r ŵyl mewn gwirionedd o fywyd Qu Yuan, y bardd hynafol o Tsieina a foddodd, yn ôl y chwedl, mewn afon yn ystod cyfnod y 'Taleithiau Rhyfelgar' (rhwng tua 475 a 221 cyn y cyfnod cyffredin). Yn ôl y sôn, ar ôl i bobl leol ddarganfod beth oedd wedi digwydd, gwnaethant rasio’u cychod yn wyllt i chwilio amdano, gan ollwng swmpiau o reis i'r afon fel na fyddai pysgod yn gwledda ar ei gorff. Dyma pam mae cymaint o rasys cychod yn cael eu cynnal yn ystod yr yr adeg hon, a pham mae teuluoedd yn gwneud ac yn bwyta 'zongzi' – math o dwmplen reis gludiog wedi'i lapio mewn dail bambŵ.

Gan y dywedir i Qu Yuan foddi ar bumed diwrnod pumed mis y calendr lleuad, cynhelir yr ŵyl bob blwyddyn ar y diwrnod hwn. Fodd bynnag, mae'r dyddiad yn newid i'r rhai ohonon ni sy'n defnyddio calendrau eraill. Felly, yn 2021, bydd yr ŵyl yn digwydd ar 14 Mehefin. I ddathlu, mae tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd wedi paratoi rhai adnoddau ar-lein arbennig i athrawon eu defnyddio yn y dosbarth, neu i blant (neu oedolion!) eu mwynhau gartref. Roedd y disgyblion yn awyddus iawn i greu eu cychod draig eu hunain a'u rasio, felly dyma beth wnaeth rhai ohonynt.

Gofynnwyd i ddisgyblion o Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wneud cyflwyniadau ar bopeth yr oeddent wedi'i ddysgu am Ŵyl Cychod y Ddraig. Fe wnaeth dosbarth blwyddyn 8 ddarllen a pherfformio drama am stori Qu Yuan hyd yn oed, ac ysgrifennu a pherfformio siant mewn Mandarin i annog y rhwyfwyr i rwyfo’n gyflymach!

Pupils from Ysgol Gyfun Cwm Rhymni design their own dragon boats
Gwaith dylunio cymhleth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni…
Pupils from Ysgol Gyfun Cwm Rhymni with their completed dragon boats
...a’r gwaith terfynol!

“Roedd yn braf gweld disgyblion yn gweithio gyda’i gilydd ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd” meddai athrawes Ysgol Gynradd Maes-Y-Coed, Sue King. “Roedden nhw wrth eu boddau’n gwylio’r clip o ŵyl gychod go iawn ac yn methu â chredu pa mor gyflym roedd y bobl yn rhwyfo!”

Maes Y Coed Primary School pupils and their dragon boats
Er bod y plygu'n anodd iddynt, fe wnaeth disgyblion Maes-Y-Coed ddyfalbarhau â'u cychod draig papur.
Children from Millbrrok Primary School - Dragon Boat Festival 2021
Disgyblion Ysgol Gynradd Millbrook yn gweithio'n galed ar eu cychod draig.

Rhannu’r stori hon